香港王中王最快开奖结果

Alert Section

Safle gwersylla trwydded


Crynodeb o’r drwydded

Os ydych chi’n caniatáu i’r cyhoedd ddefnyddio eich tir chi fel safle gwersylla am fwy na 42 diwrnod yn olynol – neu 60 diwrnod mewn blwyddyn – mae’n rhaid i chi gael trwydded gan eich awdurdod lleol. 

Gellir rhoi amodau ar y drwydded. 

Mae eithriadau’n bodoli i fudiadau sy’n meddu ar dystysgrif eithrio o’r rheolau safle gwersylla.

Crynodeb o’r rheoliadau 

Proses gwerthuso cais 

Pan gyflwynir cais tybir ei fod yn cael ei wneud yn ddiamod, onibai bod yr awdurdod lleol yn hysbysu bod y cais wedi’i wrthod neu bod amodau ynghlwm â’r drwydded. 

A fydd cydsyniad mud yn berthnasol? 

Bydd.  Mae hyn yn golygu y cewch chi weithredu fel petai eich cais wedi bod yn llwyddiannus os nad ydych chi wedi clywed oddi wrth yr awdurdod lleol erbyn diwedd y cyfnod prosesu’r cais. 

Ffioedd

Nid oes ffi ar gyfer y cais hwn.

Gwneud cais ar-lein 

Gwneud iawn am gais a fethodd 

Cysylltwch â’ch Awdurdod Lleol fel man cychwyn.

Os gwrthodir rhoi trwydded i ymgeisydd gall gyflwyno apêl i’r llys ynadon lleol. 

Gwneud iawn i’r deilydd trwydded 

Cysylltwch â’ch Awdurdod Lleol fel man cychwyn.

Gall deilydd trwydded gyflwyno apêl i’r llys ynadon lleol yn erbyn amod ar eu trwydded.  

Cwyn gan ddefnyddiwr 

Byddem bob amser yn eich cynghori, os oes gennych chi unrhyw fater rydych chi am gwyno amdano, y dylech chi gysylltu â’r masnachwr yn gyntaf – trwy lythyr (gyda phrawf cyflwyno’r llythyr) yn fwyaf dymunol. Os nad ydy hynny wedi gweithio, ac os ydych chi yn y Deyrnas Unedig, fe gewch chi gyngor gan . Os ydych chi y tu allan i’r Deyrnas Unedig cysylltwch â’r rhwydwaith Canolfannau Defnyddwyr Ewropeaidd - .

Manylion cyswllt

Rheoli Amgylcheddol, Cyngor Sir y Fflint, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug, CH7 6NF

Rhif ffôn: 01352 703440

Cymdeithasau/mudiadau’r diwydiant 

Mewn partneriaeth â EUGO