Gweithredydd sgipiau trwydded
Crynodeb o’r drwydded
Os ydych chi’n dymuno gosod sgip ar briffordd wedi’i mabwysiadu (y ffordd ynghyd ag unrhyw ardal glaswellt neu balmant) mae’n ofynnol cael trwydded gan yr awdurdod lleol.
Cyn ymgeisio am drwydded yn gyntaf mae’n rhaid i chi gofrestru eich bwriad â ni (cofrestru gweithredyddion sgipiau) a chyflwyno tystiolaeth bod gan eich cwmni chi yswiriant atebolrwydd cyhoeddus cyfredol gwerth £5 miliwn.
Meini prawf cymhwysedd
Dim darpariaeth yn y ddeddfwriaeth.
Mae’n rhaid i’r gweithredydd feddu ar yswiriant atebolrwydd cyhoeddus gwerth o leiaf £5 miliwn a bod yn gludwr gwastraff cofrestredig. Dim ond pan rydych chi’n weithredydd sgipiau trwyddedig y cewch chi wneud cais am hawlenni sgip. Ar ôl eich trwyddedu mae’n rhaid i’r cwmni wneud cais am hawlen ar wahân ar gyfer pob lleoliad.
Crynodeb o’r rheoliadau
(Deddf Priffyrdd 1980)
Proses gwerthuso cais
Dim darpariaeth yn y ddeddfwriaeth.
Unwaith y rhoir trwydded gall eich cwmni chi wneud cais am hawlenni sgip unigol fel bo angen (cyn belled ag y bo’r yswiriant yn parhau’n gyfredol).
Ffioedd
Dim. Rydych chi’n cofrestru am ddim.
A fydd cydsyniad mud yn berthnasol?
Na fydd. Er budd y cyhoedd mae’n rhaid i’r awdurdod brosesu eich cais cyn y gellir rhoi trwydded. Os nad ydych chi wedi clywed oddi wrth yr awdurdod lleol ymhen cyfnod rhesymol, cysylltwch â’r adran berthnasol. Cewch wneud hyn neu defnyddiwch y manylion cyswllt isod.
Gwneud cais ar-lein
Gwneud iawn am gais a fethodd
Cysylltwch â’ch Awdurdod Lleol fel man cychwyn.
Gwneud iawn i’r deilydd trwydded
Cysylltwch â’ch Awdurdod Lleol fel man cychwyn.
Cwyn gan ddefnyddiwr
Byddem bob amser yn eich cynghori, os oes gennych chi unrhyw fater rydych chi am gwyno amdano, y dylech chi gysylltu â’r masnachwr yn gyntaf – trwy lythyr (gyda phrawf cyflwyno’r llythyr) yn fwyaf dymunol. Os nad ydy hynny wedi gweithio, ac os ydych chi yn y Deyrnas Unedig, fe gewch chi gyngor gan . Os ydych chi y tu allan i’r Deyrnas Unedig cysylltwch â’r rhwydwaith Canolfannau Defnyddwyr Ewropeaidd - .
Gwneud iawn mewn achosion eraill
Beth os ydy sgip wedi’i leoli fel ei fod yn achosi rhwystr, heb hawlen?
Gall unrhyw un sy’n gweithredu heb hawlen, neu’n groes i amodau’r hawlen, wynebu camau gweithredu gorfodaeth dan Ddeddf Priffyrdd 1980. Mae gan Gyngor Sir y Fflint yr awdurdod i gael gwared o unrhyw rwystr a osodwyd ar y briffordd heb hawlen ac adfer y costau ynghlwm â hynny.
Os ydych chi’n credu bod rhywun yn gweithredu heb hawlen, neu’n torri amodau’r hawlen, cysylltwch â ni os gwelwch yn dda.
Manylion cyswllt
Gwasanaethau Stryd, Depo Alltami, Ffordd yr Wyddgrug, Alltami, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint CH7 6LG
Rhif ffôn: 01352 701234
E-bost: gwasanaethaustryd@siryfflint.gov.uk
Cymdeithasau/mudiadau llafur
)
Mewn partneriaeth â EUGO