Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol (RhTAS)
Beth yw’r Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol (SHARP)?
Mae Cyngor Sir y Fflint wedi ymrwymo i gwrdd ag anghenion y gymuned leol am dai fforddiadwy ar draws y sir. Gan weithio gyda'u partner datblygu Wates Residential, mae’r cyngor wedi dechrau menter newydd i godi tai newydd drwy SHARP.
Bydd SHARP yn creu 500 o gartrefi newydd ar draws Sir y Fflint erbyn 2021, a bydd 197 o’r rhain yn dai rhent fforddiadwy (gyda North East Wales Homes Ltd yn berchen arnynt ac yn eu rheoli) a bydd 303 yn dai rhent cymdeithasol (yn cael eu rheoli gan Gyngor Sir y Fflint).
Fel rhan o'r prosiect, mae Cyngor Sir y Fflint a Wates Residential wedi gwneud ymrwymiad ar y cyd i greu cyfleoedd helaeth ar gyfer hyfforddiant a chyflogaeth leol. Amcangyfrifir y bydd dros 2,000 o bobl yn cael eu cyflogi drwy raglen SHARP ac y bydd tua 20 o swyddi prentisiaeth yn cael eu creu.
Bydd y tai yn cael eu hadeiladu i safon uchel gyda cheginau ac ystafelloedd molchi modern. Er mwyn cadw costau cynnal yn isel bydd safonau arbed ynni yn cael eu hymgorffori, fel ffenestri modern a deunyddiau inswleiddio.
CYNLLUNIAU
Datblygiad o 27 o unedau sy’n cynnwys cyfuniad o dai 2 a 3 ystafell wely a byngalos 2 ystafell wely.
Gallwch weld cynllun y safle yma:
Cynllun
Cynllun Lleoliad
Math o Dŷ 1
Math o Dŷ 2
Math o Dŷ 3
Datganiad Drafft Dylunio
Mae’r cynllun wedi cael caniatâd cynllunio ar 2 Mai 2018 ac mae’r dolenni hyn yn darparu rhagor o wybodaeth, gan gynnwys y dyluniad a’r cynllun.
Datblygiad o 41 o unedau sy’n cynnwys cyfuniad o dai 21 tŷ 2 ystafell wely, 12 tŷ 3 ystafell wely, 4 fflat 1 ystafell wely a 4 fflat 2 ystafell wely.
Gallwch weld cynllun y safle yma:
Cynllun y safle
Cynllun Safleoedd (cynllun manwl)
Cynllun lleoliad
Math o dy 1
Math o dy 1 - cynllun lliw
Ty fath 2
Cynlluniau lliw ty 2 fath
Fflatiau
Nant y Gro - Arolwg CCTV
Nant Y Gro - Asesiad Effaith Coedyddiaeth
Datganiad Cludiant
Cynllun Teithio
Lleolir ar safle cyn depo'r cyngor sydd wedi bod yn wag ers rhai blynyddoedd, bydd y datblygiad hwn yn darparu 24 o dai cyngor a thai fforddiadwy newydd. Mae’r cynllun wedi’i ddylunio i gynnal y rhes coed aeddfed presennol i ffin y safle gyda’r holl eiddo y tu ôl i hyn i leihau’r effaith ar eiddo presennol yn yr ardal.
Cynllun y Safle
Adroddiad cam estynedig Dobshill cam 1
Eiddo nodwedd
Math o Dŷ 1
Math o Dŷ 2
Math o Dŷ 14
Math o Dŷ 15
Math o fflatiau
Mae Maes Gwern yn ddatblygiad 160 o dai a rhandai yn yr Wyddgrug ar y cyd rhwng Cyngor Sir y Fflint a Wates Residential. Bydd 48 yn eiddo fforddiadwy i’w rhentu ac ecwiti rhannol, a bydd y 112 sy’n weddill ar gael i’w prynu ar y farchnad agored. Bydd tai fforddiadwy’n cynnwys tai lled-wahanedig dwy a thair ystafell wely, tai teras dwy ystafell wely a rhandai un ystafell wely. Bydd gan bob eiddo deiliadaeth wahanol.
Mae’r datblygiad wedi cael ei ddylunio a’i ysbrydoli gan y thema ’pentref gardd’. Bydd y themâu, sy’n ffurfio’r datblygiad, nid yn unig yn helpu’r gymuned i ffynnu’n gymdeithasol drwy ryngweithiad gofod cyhoeddus a phreifat, ond yn hunan-blismona yn erbyn trosedd ac ymddygiad gwrth cymdeithasol hefyd.
Dechreuwyd y gwaith ar y datblygiad ym mis Medi 2018 ac mae disgwyl iddo orffen yn ystod gwanwyn 2022.
Maes Gwern - Cynllun Lleoliad
Datblygiad unigryw o 4 fflat un ystafell wely ac 8 fflat dwy ystafell wely wedi’u lleoli a Sealand Avenue, Garden City. Mae’r cynllun yn cynnwys dyluniad ffrâm bren unigryw ac arloesol sy’n creu amgylchedd o safon uchel.
GWYBODAETH AM DENANTIAETHAU
Tai Cyngor
Er mwyn cael eich ystyried ar gyfer un o dai y Cyngor, mae’n rhaid i chi fod yn gymwys ar gyfer tai cymdeithasol a rhaid gwneud cais i dîm Atebion Tai Sir y Fflint ar 01352 703777. Mae polisi gosod tai lleol wedi cael ei baratoi sy’n rhoi blaenoriaeth i’r rheiny sy’n byw yn y gymuned gerllaw neu sydd â chysylltiad â hi.
Tai Fforddiadwy
Os nad ydych yn gymwys ar gyfer tai’r Cyngor yna mae 62 eiddo ar gael am rent fforddiadwy (is na rhent y farchnad). Gellir gwneud cais arlein drwy ddilyn y cysylltiad yma . Unwaith eto bydd yr eiddo yn gyntaf yn cael eu gosod i bobl gyda chysylltiad lleol â'r ardal ond bydd hyn yn cael ei ymestyn yn dibynnu ar y galw am y tai.
CYFLEOEDD DYSGU A CHYFLOGAETH DRWY SHARP
Mae partneriaid y datblygiad, Wates Residential yn awyddus i gyflogi cynifer o bobl leol â phosib ar y safleoedd adeiladu gan weithio gydag is-gontractwyr lleol. Hefyd maent wedi ymrwymo i gynnig cyfleoedd dysgu a phrentisiaeth. Gall unrhyw un sydd â diddordeb mewn ceisio cyflogaeth gysylltu â Rheolwr Prosiect Wates Residential ar 07795 520727 neu alw i mewn i swyddfa'r safle yn The Walks, yn Y Fflint.
CYNLLUNIAU WEDI'U CWBLHAU
Bydd y datblygiad newydd hwn o 3 tŷ cyngor 3 llofft a 3 tŷ cyngor 2 lofft ar gornel y Stryd Fawr a Ffordd yr Wyddgrug yn adfywio’r ardal hon, gan greu ardal breswyl ddeniadol fydd yn darparu tai y mae cymaint o’u hangen yng Nghei Connah.
Datblygiad yw hwn o dai cyngor newydd 2 a 3 ystafell wely. Cul de sac bychan ydyw ar safle hen Ysgol Custom House Lane. Dyma'r tro cyntaf i dai cyngor newydd gael eu hadeiladu yn Sir y Fflint ers cyflwyno’r Cynllun Hawl i Brynu dros 25 mlynedd yn ôl. Mae’r tai wedi eu hadeiladu i safon uchel gyda cheginau ac ystafelloedd molchi modern. Er mwyn cadw costau cynnal yn isel mae safonau arbed ynni wedi eu hymgorffori fel ffenestri modern a deunyddiau inswleiddio.
Mae’r cyn safle moduradai oddi ar St Mark’s Avenue wedi cael ei glirio 5 ty cyngor 2 lofft yn cael eu codi arno.
Bydd cyn safle modurdai wedi trawsnewid yn ddatblygiad newydd o 3 tŷ 2 llofft a 2 dŷ 3 llofft, gan greu ardal breswyl fechan ddeniadol i bobl leol a darparu tai cyngor y mae cymaint o’u hangen yn y pentref.
Bydd cyn safle modurdai (oedd wedi mynd yn anaddas at y diben) wedi trawsnewid yn ddatblygiad newydd o 4 rhandy 2 lofft a 4 byngalo 2 lofft, gan greu 8 tŷ cyngor newydd i bobl leol.
Mae The Walks,Y Fflint yn cael ei adeiladu ar hyn o bryd a bydd yn darparu 92 o dai newydd ar gyfer pobl leol. Bydd cymysgedd o dai 2 a 3 ystafell wely a fflatiau 1 a 2 ystafell wely (gweler llun y pensaer sydd ynghlwm), a bydd rhai o’r fflatiau yn cael eu haddasu. Bydd y ddeiliadaeth yn gymysg gyda 62 o’r tai ar gyfer rhent canolradd, gyda NEW Homes yn berchen arnynt ac yn eu rheoli, a bydd 30 yn dai Cyngor ar gyfer rhent cymdeithasol.
Bydd cwblhau’r safle hwn yn creu cymuned newydd yng nghanol y Fflint gan droi’r hyn a arferai fod yn hen fflatiau yn ddatblygiad tai modern. Mae’r cynllun yn newid yn ddyddiol.
Gwyliwch yr adeilad…
Mae ysgol nad oedd ei hangen mwyach wedi cael ei dymchwel er mwyn creu datblygiad newydd o 16 o dai cyngor newydd yn agos at ganol y dref. Bydd 10 tŷ 2 lofft a 6 tŷ 3 llofft yn cael eu hadeiladu yn yr ardal breswyl newydd er mwyn creu datblygiad modern a deniadol fydd yn darparu tai y mae cymaint o’u hangen ar bobl leol.
Lleolwyd ar Rodfa Melrose, Shotton Uchaf, mae’r datblygiad hwn o 4 tŷ 2 ystafell wely, 2 fflat 1 ystafell wely a 2 fflat 2 ystafell wely wedi disodli Canolfan Gymunedol Melrose sy’n wag a oedd yn arfer bod ar y safle hwn ac yn destun fandaliaeth cyn ei ddymchwel yn gynharach eleni.
Arfaethedig - Garden City: Cynllun y safle
Arfaethedig - Garden City Bloc A: Cynllun am elevations
Arfaethedig - Garden City Bloc B: Cynllun
Garden City Bloc B - Elevations
Ffotograffau o gynlluniau wedi'u cwblhau