香港王中王最快开奖结果

Alert Section

Terfyn Cyflymder 20mya Llywodraeth Cymru

Deddfwriaeth ddiwygiedig 20mya ar Ffyrdd Cyfyngedig

Ar 17 Medi 2023, cyflwynodd Llywodraeth Cymru derfyn cyflymder o 20mya ar ffyrdd cyfyngedig ar draws Cymru a oedd yn rhoi dyletswydd gyfreithiol ar bob Cyngor yng Nghymru i gyflwyno’r newidiadau gofynnol erbyn y dyddiad hwn.  Roedd y terfyn cyflymder 20mya yn effeithio ar y rhan fwyaf o ffyrdd 30mya blaenorol, gan gynnwys y rhan fwyaf o ffyrdd preswyl a strydoedd prysur i gerddwyr gyda system oleuadau stryd.

Cewch fwy o wybodaeth am y ddeddfwriaeth newydd hon ar wefan Llywodraeth Cymru;

Gosod terfynau cyflymder 30mya ar Ffyrdd Cyfyngedig

Ynghyd â rhaglen i wrando ar y wlad, ym mis Ebrill 2024, cyhoeddodd Ysgrifennydd yr Economi a Chludiant Cabinet Llywodraeth Cymru gynlluniau i weithio ar y cyd ag awdurdodau lleol i baratoi ar gyfer newidiadau, gan adolygu’r canllawiau ar ba ffyrdd lleol y gallai gael eu heithrio rhag y terfyn 20mya. Cyhoeddwyd y canllawiau newydd ym mis Gorffennaf, a bydd disgwyl i Gynghorau ar draws Cymru ddechrau ymgynghori ar y newidiadau ym mis Medi.

Cyflwynwyd y meini prawf diwygiedig, o’r enw “Gosod terfynau cyflymder o 30mya ar ffyrdd cyfyngedig: canllawiau i awdurdodau priffyrdd” ar 16 Gorffennaf ac fe’u lluniwyd i helpu awdurdodau priffyrdd i benderfynu lle gellir cynyddu terfynau cyflymder 20mya i 30mya.  Bwriedir i’r ddogfen hefyd ddisodli’r ‘Meini Prawf Eithriadau’ blaenorol  gan Lywodraeth Cymru.

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth ar y meini prawf 30mya newydd ar wefan Llywodraeth Cymru;

Ceisiadau ar gyfer terfyn cyflymder 30mya ar Ffyrdd Cyfyngedig 

Gofynnwyd i bob Cyngor yng Nghymru gasglu adborth trigolion am derfynau cyflymder 20mya. Pwrpas hyn oedd galluogi’r Cynghorau i asesu a oedd y ffyrdd hyn yn gymwys i gael terfyn cyflymder o 30mya yn unol â a gyhoeddwyd fis Gorffennaf.

Cawsom dros 900 o sylwadau unigol. Cliciwch yma i weld rhestr o ffyrdd a gafodd eu henwebu.

Rhestr o ffyrdd a gafodd eu henwebu

  • A5026 o Lloc i’r A5151
  • A5104 Ffordd Caer i’r Stryd Fawr, Saltney
  • A5104 Priffordd, Brychdyn
  • A5104 Ffordd yr Wyddgrug, Brychdyn
  • A5104 Pontybodkin i Goed Talon
  • A5119 Y Fflint, Ffordd Llaneurgain
  • A5119 Stryd y Brenin
  • A5119 Stryd y Brenin i Leadmills
  • A5119 New Brighton
  • A5119 Ffordd Llaneurgain, Llaneurgain
  • A5119 Ffordd Rhuthun, yr Wyddgrug
  • A541 Ffordd Caer, Saltney
  • A541 Ffordd Dinbych, yr Wyddgrug
  • A541 Pontblyddyn
  • A5440 Welsh Road, Glannau Dyfrdwy
  • A548 Ffordd Bagillt
  • A548 Ffordd Mostyn
  • A548 Weighbridge Road, Glannau Dyfrdwy
  • A549 Dobshill i Gylchfan Penrhwylfa
  • Ffordd Aber, Y Fflint
  • Ffordd Alltami, Bwcle
  • Aston Hall Lane
  • Aston Road
  • B5129 Kelsterton Road
  • B5129 Sandycroft
  • B5444 Ffordd Wrecsam, yr Wyddgrug
  • Bannel Lane, Bwcle
  • Ffordd Brunswick
  • Bryn-y-Baal Road i Bryn Road, Mynydd Isa
  • Burntwood Road i Wood Lane
  • Chambers Lane
  • Ffordd yr Eglwys, Bwcle
  • Stryd Fawr Cei Connah
  • Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy
  • Drury New Road
  • Cyfnewidfa Ewlo
  • Ffordd Llanarth
  • Globe Way, Bwcle
  • Greenfield Street i Greenfield Road
  • Liverpool Road, Bwcle
  • Allt Llinegar, Penyffordd
  • Maes Gwern, Yr Wyddgrug
  • Ffordd yr Wyddgrug, Cei Connah
  • Ffordd Nant Mawr, Bwcle
  • New Road, Drury
  • Ddim yn Sir y Fflint
  • Padeswood Road South, Bwcle
  • Pinfold Lane, Bwcle
  • Precinct Way, Bwcle
  • Cylchfan Queensferry
  • Rhes-y-Cae
  • Shotton, Woodland Street
  • Tinkersdale, Penarlâg
  • Vounog Hilli Ffordd Wrecsam, Penyffordd
  • Lôn Wepre i Wepre Drive, Cei Connah
  • Whitefarm Road, Bwcle
  • Wood Lane i Barc Dewi Sant, Ewlo
  • Ffordd Y Coetir, yr Wyddgrug

Camau nesaf

Byddwn yn adolygu’r holl sylwadau rydym wedi’u cael ac yn eu hasesu yn ôl y canllawiau diwygiedig.

Wrth bennu a ddylai stryd/ffordd fod â therfyn cyflymder uwch, mae’n rhaid i Gynghorau fod yn sicr na fydd unrhyw gynnydd o’r fath yn cael effaith negyddol ar ddiogelwch ar y ffordd.

Ar ôl i ni gwblhau ein hadolygiad, byddwn yn cyhoeddi canlyniadau’r asesiadau ar ein gwefan dros y misoedd nesaf. Sylwch na fyddwn yn gallu rhoi adborth unigol ar gyfer pob sylw rydym wedi’i gael.

Bydd strydoedd/ffyrdd lle na fyddai 30mya yn addas o dan y canllawiau diwygiedig yn parhau i fod â’r terfyn cyflymder arferol o 20mya.

Os oes stryd/ffordd lle mae’r canllawiau diwygiedig yn awgrymu y gallai terfyn cyflymder o 30mya fod yn addas, bydd y cynnig yn cael ei hysbysebu’n ffurfiol yn unol â’r weithdrefn ymgynghori statudol ar gyfer gorchmynion rheoleiddio traffig.

Bydd ymgynghoriad cyhoeddus ar bob Gorchymyn Rheoleiddio Traffig, lle gall trigolion ddangos cefnogaeth neu wrthwynebu. Byddwn yn cyhoeddi manylion unrhyw newidiadau ar ein gwefan.

Ar ôl ymgynghori ar y Gorchmynion, bydd penderfyniadau terfynol yn cael eu gwneud am unrhyw newidiadau yn rhan o brosesau gwneud penderfyniadau arferol y Cyngor.

Bydd rhagor o ddiweddariadau ar ôl i ni gwblhau ein hadolygiad.

Gwneud Cais

Pwrpas yr e-ffurflen hon yw galluogi aelodau’r cyhoedd i gyflwyno ceisiadau ar gyfer terfynau cyflymder 30mya ar ffyrdd cyfyngedig yn Sir y Fflint.  Ar ôl derbyn eich e-ffurflen, bydd Swyddogion yn asesu eich ceisiadau yn unol â meini prawf diwygiedig Llywodraeth Cymru.  

Gwneud cais

Cwestiynau Cyffredin

2.  A wnaeth pob ffordd yn Sir y Fflint newid i 20mya ar 17 Medi? 

Ar 17 Medi 2023, newidiwyd pob ffordd gyfyngedig i 20mya.  

3. Beth yw ffordd gyfyngedig? 

Mae ffyrdd cyfyngedig fel arfer wedi’u lleoli mewn ardaloedd preswyl a chyn 17 Medi 2023, roedd ganddyn nhw derfyn cyflymder o 30mya a system oleuadau stryd (tri neu fwy o golofnau goleuadau o fewn 183m). 

4. Os oes goleuadau stryd ar ffordd ond mae’r terfyn cyflymder yn 40mya neu 50mya, a ddylai’r ffordd fod wedi newid i 20mya?

Na. Dim ond ffyrdd cyfyngedig 30mya gafodd eu newid i 20mya ar 17 Medi.   Mae ffyrdd â therfyn cyflymder uwch na 30mya ble mae goleuadau stryd wedi cadw eu terfyn cyflymder presennol. 

5. Pa feini prawf wnaeth y Cyngor eu dilyn wrth gyflwyno deddfwriaeth 20mya newydd Llywodraeth Cymru?

Roedd yn ddyletswydd gyfreithiol ar bob Cyngor yng Nghymru i gyflwyno terfyn cyflymder 20mya ar bob ffordd gyfyngedig ar 17 Medi 2023 gan ddefnyddio meini prawf Llywodraeth Cymru sydd ar gael yma. 

6. A fyddai’r Cyngor wedi gallu anwybyddu deddfwriaeth 20mya Llywodraeth Cymru a chadw’r terfyn cyflymder ar 30mya?

Na fyddai. Nid oedd modd i Gynghorau lleol ddiystyru meini prawf yn gyfreithiol wrth bennu cyfyngiadau cyflymder ar ffyrdd lleol.  Asesir pob terfyn cyflymder yn ddiduedd ar sail meini prawf cenedlaethol penodol.

7. Beth yw’r drefn ar gyfer dadansoddi ymatebion i wrthwynebiadau/sylwadau ar Orchymyn Rheoleiddio Traffig?

Mae awdurdodau lleol yn gyfrifol am sicrhau bod trefn deg, ddiduedd a gwrthrychol yn cael ei dilyn wrth ystyried gwrthwynebiadau a/neu sylwadau i Orchymyn Rheoleiddio Traffig.

Nodir y gweithdrefnau ar gyfer ymdrin â gwrthwynebiadau a sylwadau yng Nghyfansoddiad y Cyngor a’i Gynllun Dirprwyo ac fe’u rheolir gan y gwasanaethau cyfreithiol.

Mae mwy o wybodaeth ar y broses ffurfiol o greu Gorchymyn Rheoleiddio Traffig o’r dechrau i’r diwedd ar gael yma. 

8. A yw Gorchmynion Rheoleiddio Traffig yn cael eu pennu gan nifer yr ymatebion a dderbynnir gennych yn ystod y cyfnod ymgynghori statudol? 

Nid yw’r broses ymgynghori statudol yn dibynnu ar nifer y gwrthwynebiadau neu sylwadau a dderbynnir yn ystod y broses. Cynnwys y sylwadau a dderbynnir fydd yn penderfynu a fydd Gorchymyn yn cael ei roi ar waith neu beidio.

Er enghraifft, ni fyddai 10 o wrthwynebiadau a dderbyniwyd gan breswylwyr yn nodi nad ydynt yn syml yn hoffi’r cynnig yn cael eu dosbarthu fel achos dilys i wrthwynebu. Ond byddai un gwrthwynebiad sy’n darparu tystiolaeth nad yw’r cynnig yn bodloni'r meini prawf, neu dystiolaeth y gallai’r cynnig gael effaith negyddol ar unigolion a/neu’r cyhoedd yn ehangach, o bosibl yn cael ei ystyried yn wrthwynebiad dilys. 

9. Sut allaf wneud cais i gynyddu’r terfyn cyflymder i 30mya ar ffordd gyfyngedig?   

Gall cymunedau lleol gyflwyno ffyrdd i’w hystyried ar gyfer eithriad ar wefan y Cyngor. 

10. Os ystyrir bod fy ffordd yn gymwys dan y meini prawf 30mya newydd, pryd fydd y terfyn cyflymder 30mya yn cael ei ailgyflwyno?

Cyn y gellir newid unrhyw ffordd yn ôl i 30mya, mae’n rhaid hysbysebu hyn yn ffurfiol drwy’r weithdrefn ymgynghori statudol ar gyfer Gorchmynion Rheoleiddio Traffig.  Gweler cwestiwn 12 am fanylion y broses. 

11. Beth yw’r dyddiad cau ar gyfer y ceisiadau 30mya?

Nid oes dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau 30mya.

12. Rwyf wedi ymateb i ymgynghoriad Gorchymyn Rheoleiddio Traffig ac nid wyf wedi clywed y canlyniad eto, pa mor hir y bydd yn ei gymryd? 

Er mwyn creu Gorchymyn Rheoleiddio Traffig rhaid dilyn proses statudol ffurfiol.    Mae GRhT yn ddogfennau cyfreithiol ysgrifenedig y mae’n rhaid derbyn gwrthwynebiadau, neu sylwadau o gefnogaeth iddynt, yn ysgrifenedig i’r cyfeiriad a nodir, ar neu cyn y dyddiad cau penodedig.

Yn dilyn y dyddiad cau mae gwrthwynebiadau neu sylwadau o gefnogaeth wedyn yn destun proses statudol ffurfiol, a all gymryd peth amser i'w chwblhau, yn dibynnu ar nifer yr ymatebion a dderbyniwyd a/neu eu cymhlethdod.

Mae’r broses ffurfiol ar gyfer creu GRhT o’r dechrau i’r diwedd yn cynnwys: 

  • Rhoi Hysbysiad o Gynnig yn y wasg leol am gyfnod statudol isafswm o 21 diwrnod pryd y gellir cyflwyno gwrthwynebiadau ffurfiol yn erbyn y cynigion. Rhoddir Hysbysiad o Gynnig ar y safle hefyd, ac mae pecyn gwybodaeth ar gael ar-lein ac yn y Ganolfan Gyswllt berthnasol, i'r cyhoedd ei archwilio.
  • Bydd unrhyw wrthwynebiadau (neu sylwadau o gefnogaeth) a ddaw i law yn ystod y cyfnod hwn wedyn yn cael eu hystyried yn ddiduedd gan yr Awdurdod, a bydd Adroddiad Dirprwyo yn cael ei gwblhau yn amlinellu penderfyniad yr Awdurdod ynghylch a ddylid gwrthod neu gadarnhau unrhyw wrthwynebiadau unigol a dderbyniwyd.  Rhaid i'r adroddiad hwn wedyn fynd drwy'r prosesau llywodraethu gofynnol.
  • Cwblheir Gorchymyn Terfynol a Hysbysiad o Wneud.  Rhoddir Hysbysiad o Wneud ar y safle, ac mae pecyn gwybodaeth ar gael ar-lein ac yn y Ganolfan Gyswllt berthnasol, i'w archwilio gan y cyhoedd.
  • Mae'r Gorchymyn yn cael ei selio gan yr Adran Gyfreithiol.
  • O fewn 14 diwrnod i'r Gorchymyn gael ei selio gan adran gyfreithiol Cyngor Sir y Fflint, bydd ymateb ysgrifenedig llawn yn cael ei ddarparu i'r Gwrthwynebwyr neu'r ymatebwyr i gefnogi'r Gorchymyn.
  • Ar ôl cwblhau'r camau uchod, bydd gwaith yn dechrau ar y safle.

Hyd nes y bydd y broses ymgynghori statudol wedi'i chwblhau, nid yw'n bosibl dweud pa ffyrdd a awgrymir fydd yn newid i 30mya, ond i'r rhai sy'n newid, bydd hyn yn golygu y byddant yn rhagosodedig i 20mya ar 17 Medi ac ni fyddant yn cael eu newid i 30mya tan mae'r Gorchmynion Rheoleiddio Traffig wedi'u rhoi ar waith.

13. A ddylai fod arwyddion ategu i atgoffa pobl eu bod nhw mewn ardal 20mya?

Nid oes arwyddion crwn nac arwyddion ategu 20mya wedi cael eu gosod ar ffyrdd cyfyngedig i atgoffa pobl eu bod mewn ardal 20mya ar ôl cyflwyno’r ddeddfwriaeth newydd ym mis Medi 2023.  Fodd bynnag, mae’n rhaid cael arwyddion ategu mewn lleoliadau 30mya. 

Yn yr un modd â’r cyfyngiadau 30mya blaenorol ar ffyrdd cyfyngedig, ni fydd angen arwyddion ategu gan fod polion goleuadau stryd yn bresennol.  Mae arwyddion 20mya newydd ar bob pen i’r ardal cyfyngu cyflymder lle bo angen.  Mae’r goleuadau stryd ar hyd y ffordd rhwng yr arwyddion hyn yn atgoffa unigolion eu bod nhw mewn ardal 20mya.

14. Beth am arwyddion cyflymder wedi’u goleuo ac yn fflachio, a fydd y rhain yn newid i fflachio 20mya?

Mae arwyddion crwn 30mya wedi’u goleuo ac sy’n cael sbarduno pan fydd cerbydau yn mynd tu hwnt i 30mya yn cael eu galw yn arwyddion a ysgogir gan gerbydau. Cânt eu defnyddio fel dyfeisiau arafu traffig, ac maent wedi cael eu gweithredu mewn nifer o leoliadau ar draws Sir y Fflint er mwyn atgyfnerthu terfynau cyflymder.    Mae mwyafrif o’r arwyddion hyn yn cael eu cynhyrchu i arddangos un terfyn cyflymder yn unig ac felly wedi cael eu digomisiynu cyn 17 Medi.  O ystyried fod cynghorau tref/cymuned wedi ariannu rhai o’r arwyddion hyn, rydym yn bwriadu amnewid arwyddion crwn 30mya presennol sy’n fflachio gydag arwyddion negeseuon amrywiol, ond mae’n debygol y bydd hyn yn digwydd yn 2024 lle bydd arian yn caniatáu.

Nid yw Llywodraeth Cymru wedi dynodi os fydd cyllid ar gael yn y dyfodol i ddarparu arwyddion cyflymder cerbydau mewn lleoliadau newydd, ond bydd mesurau o’r fath yn parhau i gael eu hystyried fel rhan o gynlluniau diogelwch lleol.

15. A fydd arwyddion 20mya yn cael eu gosod o amgylch ysgolion?  

Cafodd arwyddion terfyn cyflymder cynghorol 20mya gyda chylch du ac “20” coch yn y canol eu gwaredu yn ystod haf 2023. Mae’r terfynau cyflymder cynghorol hynny o amgylch ysgolion bellach wedi cael eu disodli gan ddeddfwriaeth 20mya statudol newydd Llywodraeth Cymru.

Mae arwyddion parth 20mya, gydag arwydd crwn 20 a geiriau “PARTH ZONE” hefyd wedi cael eu tynnu.   

16. Mae gennym ni nodweddion arafu traffig ar hyd fy ffordd i helpu i arafu cyflymder traffig, a cheir gwared ar y rhain gan fod y cyfyngiadau cyflymder 20mya bellach wedi cael eu cyflwyno?  

Mae gan nifer o gymunedau lleol fesurau arafu traffig, megis twmpathau cyflymder, arwyddion terfyn cyflymder ar gefndir melyn a rhannau coch ar y briffordd, a gyflwynwyd gan ddefnyddio’r canllawiau blaenorol. Nid yw mesurau arafu traffig ffisegol, megis rhwystrau igam-ogamu, twmpathau a chlustogau, bellach eu hangen yn ôl deddfwriaeth er mwyn hunan-orfodi terfynau cyflymder 20mya a bydd ond yn cael ei ystyried fel rhan o gynlluniau diogelwch lleol yn y dyfodol.  Bydd arwyddion 30mya gyda chefndir melyn wedi cael eu hamnewid gydag arwyddion 20mya heb gefndir melyn ac ni fydd rhannau coch ar y ffordd yn cael eu cynnal a’u cadw unwaith y byddent wedi’u gwisgo.

Bydd mesurau gostegu traffig presennol, wedi’u cyflwyno mewn ardaloedd penodol i wella diogelwch ar y ffyrdd.  Nid yw cyflwyno terfyn cyflymder 20mya wedi gwaredu’r angen am gynlluniau gostegu traffig presennol, fodd bynnag, yn yr un modd â phob cynllun diogelwch, bydd eu heffeithiolrwydd yn cael ei adolygu’n rheolaidd.  

17. A fydd y Cyngor yn ystyried ceisiadau ar gyfer cynlluniau gostegu traffig newydd gan fod y terfyn cyflymder 20mya bellach wedi cael ei gyflwyno?

Nid yw mesurau arafu traffig ffisegol, megis rhwystrau igam-ogamu, twmpathau a chlustogau, bellach eu hangen yn ôl deddfwriaeth er mwyn hunan-orfodi terfynau cyflymder 20mya.  Bydd y Cyngor yn ystyried ceisiadau yn y dyfodol fel rhan o gynlluniau diogelwch lleol, ond yn yr un modd â chyflwyno unrhyw gynllun diogelwch, bydd eu heffeithiolrwydd posibl yn cael eu hasesu’n llawn cyn i unrhyw benderfyniadau gael eu gwneud i’w cyflwyno.

18. Pwy sydd wedi talu am gyflwyno 20mya ar ffyrdd cyfyngedig yn Sir y Fflint?

Mae’r holl gostau sydd ynghlwm â gweithredu 20mya ledled Cymru hyd yma ac i’r dyfodol yn cael eu talu gan Lywodraeth Cymru drwy grant i gynghorau lleol.