Cais Ailgylchu Eitemau / Gwastraff
Rydym wedi adolygu’n polisi casglu gwastraff i wella’n perfformiad ymhellach ac i sicrhau arbedion hanfodol.
Yn y gorffennol, rydym wedi bod yn dosbarthu cynwysyddion ailgylchu fel blychau glas a bagiau ailgylchu ond, o 1 Mehefin 2015 ymlaen, ni fyddwn yn gallu rhoi’r rhain i chi. Bydd angen i bobl Sir y Fflint gasglu’r eitemau hyn o safleoedd ar hyd y lled y Sir.
Rydym yn monitro’r stoc yn ofalus felly ni fyddwch yn gallu mynd i safle arall i gasglu’r eitemau.
Ni fydd angen ichi dalu amdanynt a byddwn yn dal i roi biniau du/brown ar olwynion i chi.
Darllenwch y canllawiau a ganlyn cyn gwneud cais am eitemau; os ydych yn cael cymorth gan y swyddogion casglu, ewch yn syth i bwynt 2.
Newidiadau i Ofyn am Fagiau Gwastraff Bwyd
Ni fydd tag mewnosod bellach ar ddiwedd y rholyn i'w osod ar ddolen y cadi. Yn lle hynny, tua diwedd y rholyn bydd streipen goch yn ymddangos a fydd yn rhybuddio preswylwyr bod cyflenwad eu bagiau yn isel.
Gellir cael mwy o fagiau trwy glymu bag gwastraff bwyd wrth ddolen y cadi gwyrdd ar y diwrnod casglu.
Fel arall, gweler isod os ydych yn dymuno casglu bagiau bwyd yn bersonol.
Sut i wneud cais am Eitemau Ailgylchu:
(Bocsys Glas, Bagiau Glas, Bagiau Bwyd ac ati)
Cam 1 - Penderfynwch o ba safle rydych am gasglu’r eitemau
- Canolfannau Gwastraff ac Ailgylchu Deunyddiau o’r Cartref (neidio’r safleoedd):
- Rockliffe - Chester Road, Oakenholt CH6 5SF
- Maes Glas - Parc Busnes Maes Glas Rhif 2, Maes Glas CH8 7GJ
- Sandycroft - Prince William Avenue, Glannau Dyfrdwy, CH5 2QZ
- Yr Wyddgrug - Ffordd Nercwys, Nercwys Yr Wyddgrug CH7 4ED
- Bwcle - Globe Way, Bwcle CH7 3LY
- Canolfannau Sir y Fflint yn Cysylltu:
- Bwcle - Llyfrgell, Precinct, Bwcle, CH7 2EF
- Cei Connah - Llyfrgell, Wepre Drive, Cei Connah, CH5 4HA
- Y Fflint - Heol yr Eglwys, y Fflint, CH6 5BD
- Treffynnon - Hen Neuadd y Dref, Treffynnon, CH7 2EF
- Yr Wyddgrug - Llyfrgell, Earl Road, Yr Wyddgrug CH7 1AP
Nodwch os gwelwch yn dda:
Nid oes angen cyfeirnod casgliad arnoch i gasglu eitemau ailgylchu o Sir y Fflint yn Cysylltu felly nid oes angen i chi lenwi'r ffurflen archebu ar-lein na chysylltu â Cysylltu â Ni.
Ymwelwch â'r Ganolfan gan roi eich cod post ac enw/rhif y tŷ yn ystod oriau agor.
Cam 2 - Cysylltwch â’r Gwasanaethu Stryd i ofyn am yr eitemau.
Cewch rhif cyfeirnod y casgliad, a bydd hwn yn bwysig gan y bydd ei angen arnoch pan fyddwch yn casglu’r eitemau o’r safle rydych wedi’i ddewis. Gallwch gysylltu â’r Gwasanaeth Stryd drwy lenwi’r ffurflen isod neu ffoniwch 01352 701234.
Cam 3 - Ar ôl cael eich rhif cyfeirnod y casgliad, ewch i’r safle rydych wedi’i ddewis. Bydd angen i chi ddangos dogfen sy’n profi lle’r ydych yn byw hefyd. Rhowch y wybodaeth i’r swyddog ar y safle a bydd yn rhoi’r eitemau i chi.
Oherwydd monitro stoc llym, ni fyddwch yn gallu mynd i safle casglu gwahanol i'r un a ddewisoch wrth archebu.