Ïã¸ÛÍõÖÐÍõ×î¿ì¿ª½±½á¹û

Alert Section

Cysylltu Cei Connah â Llwybr Arfordir Cymru – Arolwg Cerdded, Beicio a Mynd ar Olwynion


Ar hyn o bryd, nid yw cysylltiadau hygyrch o ran cerdded, beicio a mynd ar olwynion rhwng Cei Connah a Llwybr Arfordir Cymru wedi’u datblygu’n dda, gyda’r dref wedi’i gwahanu i raddau helaeth oddi wrth arfordir Glannau Dyfrdwy.

Er bod modd cael mynediad i'r arfordir trwy Dock Road, nid yw'n llwybr uniongyrchol a gallai pryderon diogelwch posibl atal rhai pobl rhag ei ddefnyddio. Mae pont i gerddwyr Stryd y Bont yn gyfleuster defnyddiol ar gyfer cerddwyr abl, ond ni all unigolion nad ydynt yn gallu defnyddio grisiau na beicwyr ei defnyddio. Pe gellid gwneud gwelliannau o ran mynediad/ diogelwch, byddai’n cynnig gwell cysylltiad rhwng y dref a’r arfordir, yn gwella mynediad at natur a mannau gwyrdd ac yn cael effaith gadarnhaol ar iechyd y cyhoedd a lles y boblogaeth leol.

Wrth gwrs, byddai angen i unrhyw welliannau ystyried cyfyngiadau lleol.

Gan weithio’n agos â Phrosiectau Cludiant Lleol, mae’r Cyngor yn gwahodd pobl leol i gyflwyno eu safbwyntiau ynghylch materion cerdded, beicio a mynd ar olwynion hygyrch yn yr ardal a syniadau ar gyfer gwneud gwelliannau.    

Gallwch ddweud eich dweud drwy’r ffyrdd canlynol:

  • Llenwi arolwg ar-lein drwy glicio .
  • Dod draw i’r digwyddiad ymgynghori ‘Creu Lleoedd’ ddydd Iau 12 Medi (15:30-17:30) yn Neuadd Ddinesig Cei Connah (Wepre Drive, CH5 4HA) i gael sgwrs gydag aelod o’r tîm Prosiectau Cludiant Lleol.

Mae eich barn a’ch safbwyntiau yn bwysig i ni a bydd yr adborth a dderbyniwn yn helpu i lywio ac arwain datblygiad y prosiect. Unwaith y bydd yr holl adborth wedi’i gasglu, ei ddadansoddi a’i ystyried, byddwn yn cyhoeddi’r canlyniadau ar ein gwefan.

  • Dyddiadau pwysig
  • Agorwyd: 10/09/2024

    Dyddiad cau: 03/10/2024

  • Manylion cyswllt
  • Portffolio Cynllunio, yr Amgylchedd a'r Economi

    E-bost: isobel.smith@siryfflint.gov.uk

    Rhif ffôn: 01267 224923