香港王中王最快开奖结果

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwahodd busnesau Sir y Fflint i wneud cais am gefnogaeth wedi鈥檌 theilwra ar eu cyfer

Published: 06/03/2024

Mae pedair ar ddeg o fasnachwyr Sir y Fflint wedi cael budd o gefnogaeth fusnes, bwrpasol diolch i brosiect peilot llwyddiannus gan y t卯m Adfywio Cymunedol.

Lansiwyd Achub y Stryd Fawr ym mis Tachwedd y llynedd gyda chyllid gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU ac anelwyd i wella canol trefi Sir y Fflint drwy helpu busnesau lleol.

Mae鈥檙 peilot cychwynnol wedi bod yn gymaint o lwyddiant, mae鈥檙 prosiect wedi鈥檌 ymestyn ac mae鈥檙 T卯m Adfywio nawr yn edrych am 15 o fusnesau eraill i dderbyn cefnogaeth o fis Ebrill ymlaen.

Mae鈥檙 cynllun yn cael ei ddarparu gan SaveTheHighstreet.org - symudiad a lansiwyd yn 2016 gyda gweledigaeth newydd gyffrous ar gyfer y stryd fawr ac mae wedi鈥檌 dargedu at Yr Wyddgrug, Bwcle, Y Fflint, Treffynnon, Cei Connah, Shotton a Queensferry.

Dywedodd y Cynghorydd David Healey, Aelod Cabinet Newid Hinsawdd a鈥檙 Economi:鈥淏yddwn yn annog unrhyw fusnesau lleol i ymgeisio a chanfod pa gefnogaeth a allai fod o fudd posibl iddyn nhw.听听听 Roedd busnesau yn y peilot wedi derbyn ystod o gefnogaeth, gan gynnwys datblygu gwefan, cyngor ariannol a marchnata i ddenu mwy o ymwelwyr.

鈥淔el Cyngor, rydym wedi ymrwymo i helpu busnesau i ffynnu ac yn ei dro cefnogi鈥檙 stryd fawr leol.听听 Mae鈥檙 t卯m Adfywio yn cynnal sawl cynllun ar hyn o bryd o dan raglen Buddsoddi Canol Tref, pa un a ydych yn chwilio am gymorth busnes, gwella eiddo neu grantiau i gynnal gweithgareddau i gynyddu bywiogrwydd yng nghanol y dref.鈥

Mae hyfforddwr wedi鈥檌 neilltuo ar gyfer pob busnes sy鈥檔 cymryd rhan yn y prosiect Achub y Stryd Fawr sy鈥檔 cynnal gwiriad iechyd llawn ac yn nodi ardaloedd a fyddai鈥檔 gallu cael eu gwella neu eu datblygu.

Mae Peridot Academy yn Shotton yn un o鈥檙 busnesau wnaeth gymryd rhan yn y peilot.

Dywedodd Donna Oldfield-Sterry, y perchennog:鈥淩wyf wedi bod yn ddigon ffodus i gael Jo fel fy mentor.Mae hi yn hynod gefnogol a di-feirniadol.Rwyf eisoes wedi cael fy llygaid yn agored i pa welliannau rwyf angen eu gwneud i sicrhau llwyddiant fy musnes.

鈥淩wyf eisoes wedi gallu gwneud penderfyniadau ar y cyfeiriad yr hoffwn ei gymryd gyda fy musnes ac rwyf yn edrych ymlaen at drafod y rhain yn wythnos 4 a thu hwnt.听听 Hoffwn ddiolch i Gyngor Sir y Fflint a鈥檙 rhaglen Garlam am y cyfle hwn ac rwy鈥檔 gyffrous i weld ble bydd hyn yn mynd.鈥

Ychwanegodd Anwen Baglin o Mati & Meg: 鈥淩wy鈥檔 teimlo鈥檔 llawer mwy optimistaidd am y busnes ers i鈥檙 rhaglen ddechrau.听听 Mae ein cyfarfodydd wedi gwneud i mi deimlo yn fwy obeithiol am ddyfodol fy musnes.听听 Mae Lorna yn agos atoch chi ac yn eich annog ac yn hawdd iawn siarad gyda hi.鈥

i gofrestru.

Gallwch wybod mwy am y rhaglen Buddsoddi yng Nghanol y Dref yma.