香港王中王最快开奖结果

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Mae dros 3200 o ymatebion wedi鈥檜 derbyn yn barod i鈥檙 ymgynghoriad cyhoeddus ar ddatblygiad cynllun creu lle canol trefi

Published: 28/03/2024

Yn dilyn lansiad y rownd ddiweddaraf o ymgynghoriadau鈥檙 Cynllun Creu Lleoedd, sy鈥檔 canolbwyntio ar Gei Connah, y Fflint, yr Wyddgrug a Queensferry, mae dros 3200 o drigolion Sir y Fflint wedi dweud eu dweud ar y trefi鈥檔 barod.

Mae Creu Lleoedd yn broses a gaiff ei harwain gan Lywodraeth Cymru a鈥檌 nod yw gosod gweledigaeth ar gyfer y dyfodol a nodi amrywiaeth o flaenoriaethau a fyddai o fudd i鈥檙 lle, pobl leol a sefydliadau lleol. Bydd y wybodaeth a gesglir drwy鈥檙 broses Creu Lleoedd yn cael ei defnyddio i ddatblygu blaenoriaethau ar gyfer yr ardal a fydd yn cael eu nodi mewn cynllun ar gyfer pob un o brif canol trefi Sir y Fflint: Bwcle, Cei Connah, y Fflint, Treffynnon, yr Wyddgrug, Queensferry a Shotton.

Trwy gael Cynlluniau Creu Lleoedd, mae Llywodraeth Cymru yn gobeithio y gall awdurdodau lleol a鈥檜 partneriaid gyflawni dull mwy cydlynol tuag at gydweithio, nodi cyfleoedd ar gyfer buddsoddi a gwella鈥檙 ardal i breswylwyr lleol, busnesau ac ymwelwyr, ymysg ystod o ganlyniadau cadarnhaol eraill.

Meddai鈥檙 Cyng. David Healey, Aelod Cabinet Newid Hinsawdd a鈥檙 Economi: 鈥淢ae ymgysylltiad y cyhoedd 芒鈥檙 ymgynghoriadau hyd yma wedi bod yn gadarnhaol iawn, gan ddangos diddordeb y gymuned yn natblygiad eu trefi lleol. Drwy fynegi eu barn ar y trefi heddiw ac i鈥檙 dyfodol, gall aelodau o鈥檙 cyhoedd helpu i siapio dyfodol eu trefi a sut maent yn cael eu defnyddio, eu cynnal a鈥檜 datblygu.鈥

Mae Cabinet Cyngor Sir y Fflint wedi penderfynu y dylid gwneud y gwaith fesul cam o ystyried yr adnoddau sydd ar gael ar amser sydd ei angen i greu cynlluniau ar gyfer y 7 prif dref yn Sir y Fflint.聽 O ganlyniad, cytunwyd y byddai Bwcle, Treffynnon a Shotton yn rhan o weithgaredd rhan 1 Cynllun Creu Lleoedd Sir y Fflint, gwaith a ddechreuwyd yn 2023.

Mae鈥檙 ymgynghoriad digidol ynghylch Cei Connah, y Fflint, yr Wyddgrug a Queensferry bellach yn fyw 鈥 y dyddiad olaf i gymryd rhan yw 1 Ebrill 2024. Bydd cynlluniau鈥檙 trefi hyn yn cael eu datblygu fesul un yn ystod y deunaw mis nesaf.聽

Hyd yma, rhwng yr ymgynghoriadau cychwynnol yn 2023 a鈥檙 rheiny sy鈥檔 dal ar agor, mae dros 7600 o bobl wedi cyfrannu at yr arolygon. Canlyniad sy鈥檔 adlewyrchu barn a safbwyntiau amrywiol pobl leol Sir y Fflint.聽

Wrth ddatblygu鈥檙 cynlluniau a nodi amrywiaeth o flaenoriaethau, bydd Cyngor Sir y Fflint yn ymgysylltu unwaith eto gyda鈥檙 cyhoedd ac yn gofyn am farn pobl ar y blaenoriaethau a nodwyd ar gyfer y trefi.聽