香港王中王最快开奖结果

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyllid wedi'i sicrhau ar gyfer Archif Gogledd Ddwyrain Cymru

Published: 24/04/2024

Mae Cynghorau Sir Ddinbych a Sir y Fflint yn falch iawn o gael clywed yn ddiweddar bod Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol wedi dyfarnu grant o 拢7.3 miliwn i helpu i ariannu鈥檙 gwaith o godi adeilad newydd ar gyfer Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru (AGDdC).

Gyda chyfraniadau cyfatebol o 拢2m gan Gyngor Sir Ddinbych a 拢3m gan Gyngor Sir y Fflint, bydd hyn yn caniat谩u i AGDdC symud o鈥檙 adeiladau presennol yn Rhuthun a Phenarl芒g i ddiogelu cofnodion hanesyddol y rhanbarth at y dyfodol mewn adeilad pwrpasol di-garbon net yn yr Wyddgrug.聽

Dywedodd Liz Grieve, Pennaeth Gwasanaeth Tai a Chymunedau Cyngor Sir Ddinbych, 鈥淢ae gan Awdurdodau Lleol ddyletswydd statudol i gynnal archif, ac nid yw鈥檙 cyfleusterau presennol yn addas i鈥檙 diben. Gwnaethpwyd y penderfyniad i gymeradwyo鈥檙 prosiect mewn egwyddor fis Hydref 2023 gan gymryd i ystyriaeth yr heriau ariannol sy鈥檔 wynebu鈥檙 Cyngor. Fel rhan o鈥檙 broses, rhoddwyd ystyriaeth i nifer o opsiynau a daethpwyd i鈥檙 casgliad nad oedd opsiwn 鈥榙im cost鈥 neu 鈥榗ost isel鈥.

鈥淢ae鈥檙 dull cydweithredol hwn o weithio gyda Chyngor Sir y Fflint yn cynnig y gwerth gorau am arian ac yn sicrhau y gallwn fanteisio ar y cyllid o鈥檙 Gronfa Dreftadaeth na fyddai efallai ar gael fel arall i sicrhau鈥檙 datrysiad hirdymor hwn. Bydd hefyd yn golygu gall ein staff ddarparu gwell gwasanaeth ac ymgysylltu鈥檔 well 芒鈥檙 gymuned yng ngogledd Cymru.鈥

Dywedodd Claire Homard, Prif Swyddog Addysg ac Ieuenctid yn Sir y Fflint, 鈥淏ydd y prosiect llwyddiannus, o鈥檙 enw 鈥楢rchifau Creadigol鈥, yn trawsnewid y ffordd y mae AGDdC yn gweithio gan roi mwy o fynediad i gymunedau lleol i鈥檙 casgliadau gan hefyd ddarparu cyfleoedd i staff ryngweithio 芒鈥檙 cyhoedd i ddathlu eu hanes personol a chymunedol. Mae鈥檙 prosiect hefyd yn cynnwys rhaglen allgymorth a digidol i ehangu mynediad i鈥檙 archifau ar draws y rhanbarth a thu hwnt yn ogystal 芒 chreu mwy o leoedd ar gyfer ymchwil, perfformiadau ac arddangosfeydd.鈥

Dywedodd Andrew White, Cyfarwyddwr Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru, 鈥淢ae prosiectau fel hyn yn amlygu sut y gellir defnyddio cyllid o鈥檙 Gronfa Dreftadaeth nid yn unig i warchod ein treftadaeth a鈥檔 hanes ond ei droi鈥檔 weledigaeth gyffrous a gaiff effaith ar fywydau cenedlaethau'r dyfodol.

鈥淚 raddau helaeth, mae鈥檙 diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol ein bod yn gallu mwynhau gweld prosiectau fel yr Archifau Creadigol yn ffynnu a darparu hwb ar gyfer mannau creadigol ac addysgol i gymunedau.鈥

Mae Carchar Rhuthun a鈥檙 Hen Reithordy ym Mhenarl芒g wedi bod yn gartref i鈥檙 gwasanaeth archif ers blynyddoedd lawer ond bellach nid ydynt yn bodloni disgwyliadau a gofynion rhanddeiliaid nac yn darparu gofod digonol neu addas ar gyfer y casgliadau. Bydd y safle newydd yn helpu i chwyldroi mynediad i gynulleidfa ehangach a mwy amrywiol gan hefyd ddiogelu鈥檙 casgliadau ar gyfer cenedlaethau鈥檙 dyfodol.

Bydd presenolded Archif llai yn parhau yn Rhuthun, a bydd adleoli AGDdC yn rhyddhau gofod yng Ngharchar Rhuthun i ddatblygu profiad gwell er mwyn cynyddu nifer ymwelwyr ac incwm. Disgwylir i'r ganolfan archifau newydd agor ddiwedd 2027.