Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Gweithdai am ddim i yrwyr hyn
Published: 20/01/2015
Mae gyrwyr 65 oed neu鈥檔 hyn yn cael cynnig sesiwn yrru am ddim. Cynhelir
gweithdai am ddim gan Uned Diogelwch ar y Ffyrdd Cyngor Sir y Fflint i bobl
dros 65 oed sy鈥檔 ystyried mynychu asesiad gyrru am ddim neu sy鈥檔 adnabod rhywun
arall a hoffai wneud hynny.
Gall hyfforddwyr Gwasanaeth Asesu Symudedd a Gyrru Cymru gynnig cyngor
defnyddiol ynglyn 芒 sut i addasu鈥檆h arddull gyrru wrth fynd yn hyn. Bydd hyn
yn eich helpu chi a defnyddwyr eraill y ffyrdd i gadw鈥檔 ddiogel a鈥檆h cadw chi y
tu 么l i鈥檙 llyw yn hirach.
Meddai鈥檙 Cynghorydd Bernie Attridge, Dirprwy Arweinydd ac Aelod o鈥檙 Cabinet
dros yr Amgylchedd:
鈥淩wy鈥檔 annog pob preswylydd dros 65 oed i achub ar y cyfle hwn i gael sesiwn
yrru am ddim. Wrth i ni heneiddio, gall y newidiadau yr ydym yn mynd trwyddyn
nhw effeithio ar y ffordd yr ydym yn gyrru. Rhai o鈥檙 rhain o bosibl yw y bydd
ein hamser ymateb yn arafu, efallai y byddwn yn cymryd mwy o amser i ddod i
benderfyniadau a gall gyrru fod yn fwy blinedig a straenllyd. Mae rhai gyrwyr
yn sylwi ar y newidiadau hyn mor gynnar a chanol eu pumdegau. Wrth iddyn nhw
heneiddio, gall y mwyafrif o bobl ddal ati i yrru鈥檔 ddiogel heb unrhyw
broblemau, ond mae hyn yn haws i鈥檞 wneud gydag ychydig o help gan weithiwr
gyrru proffesiynol.鈥
Cynhelir dau weithdy am ddim yn Sir y Fflint sef dydd Iau 22 Ionawr am 1.30pm
yng Nghanolfan Fusnes Maes Glas, Maes Glas, CH8 7GR; a鈥檙 llall ddydd Mercher 11
Chwefror am 1.30pm yng Nghlwyd Theatr Cymru, Yr Wyddgrug.
I archebu lle yn un o鈥檙 gweithdai, neu i gael mwy o wybodaeth, ffoniwch yr Uned
Diogelwch ar y Ffyrdd ar 01352 704498.