香港王中王最快开奖结果

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Pecyn treftadaeth a chadwraeth i ddisgyblion ysgol

Published: 12/02/2015

Mae Gwasanaeth Cefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint a Tata Steel Shotton wedi bod yn cydweithio i lansio pecyn addysgol newydd yn ymwneud 芒 threftadaeth a chadwraeth ar lannau afon Dyfrdwy. Lleolir y fenter newydd yng Nghanolfan Gwenoliaid y M么r yn y gwaith dur a bydd Ceidwaid yr Arfordir yn cyflwyno pecyn o weithgareddau amgylcheddol dros dymor yr haf, yn seiliedig ar Warchodfa Natur Shotton, i ysgolion Sir y Fflint a鈥檙 tu hwnt.聽 Mae hyn yn cynnwys hanes a threftadaeth y gwaith dur, y cylch dwr, cadwyni bwyd, bywyd adar a phryfed, a chynefinoedd glaswelltir. 鈥淢ae鈥檔 gyfle gwych i blant ymweld 芒 safle鈥檙 gwaith dur a dysgu am ddiwydiant a bywyd gwyllt lleol鈥 meddai Karen Rippin, un o Geidwaid yr Arfordir. Cynigir y pecyn addysg fel rhan o raglen addysg amgylcheddol y Gwasanaeth Cefn Gwlad a leolir ym Mharc Gwepra ar hyn o bryd, a bydd yn manteisio ar brofiad y staff sy鈥檔 gweithio yno.聽 Tata fydd yn talu am Ganolfan Gwenoliaid y M么r a鈥檙 adnoddau addysgol i ysgolion, gan gynnwys cymorth staff ychwanegol i鈥檙 grwpiau a fydd yn ymweld 芒鈥檙 safle. 鈥淏ydd ein partneriaeth yn rhoi cyfle i nifer o ysgolion a disgyblion lleol weld cynefin unigryw sydd wedi ennill cydnabyddiaeth ryngwladol ac werthfawr iawn oherwydd ei fywyd gwyllt. Bydd y fenter hon, a fydd yn golygu鈥檔 bod yn cydweithio 芒鈥檙 Ceidwaid, yn聽 hwb enfawr i鈥檔 rhaglen i ysgolion; a byddwn i gyd yn elwa o gryfderau a phrofiadau ein gilydd,鈥 meddai Peter Shephard, Uwch Swyddog Ynni a鈥檙 Amgylchedd Tata. Mae Ceidwaid yr Arfordir yn gobeithio y bydd cannoedd o blant ysgol yn cael cyfle i ymweld 芒 chynefin gwenoliaid y m么r yn ystod y tymor magu eleni. 鈥淒yma enghraifft wych o鈥檙 sector cyhoeddus a phreifat yn gweithio mewn partneriaeth er lles ein聽 plant lleol,鈥 meddai鈥檙 Cynghorydd Bernie Attridge, y Dirprwy Arweinydd a鈥檙 Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd. 鈥淏yddwn yn annog ysgolion a darparwyr addysg i gysylltu 芒鈥檙 Gwasanaeth Cefn Gwlad i fanteisio ar y cyfle hwn.鈥 I gael rhagor o fanylion ac i drefnu ymweliad, anfonwch e-bost at countryside@flintshire.gov.uk.