Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Gweithdai am ddim i yrwyr hyn
Published: 28/01/2015
Mae sesiynau gyrru am ddim yn cael eu cynnig i yrwyr dros 65 oed. Mae Uned
Diogelwch y Ffyrdd Cyngor Sir y Fflint yn cynnal gweithdai am ddim i bobl dros
65 oed i roi cyfle iddynt gael asesiad gyrru am ddim a dysgu rhagor.
Mae Hyfforddwyr y Gwasanaeth Asesu Sgiliau Symud a Gyrru yn cynnig awgrymiadau
defnyddiol ynghylch addasu鈥檆h dull o yrru wrth i chi heneiddio, gan helpu i鈥檆h
cadw chi a phobl eraill ar y ffordd yn ddiogel, ac i sicrhau鈥檆h bod yn gallu
parhau i eistedd y tu 么l i鈥檙 llyw.
Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, y Dirprwy Arweinydd a鈥檙 Aelod Cabinet
dros yr Amgylchedd:
鈥淏yddwn yn annog pobl dros 65 oed i fanteisio ar y cyfle hwn i gael sesiwn
gyrru am ddim. Wrth i ni heneiddio, mae鈥檔 cyrff yn newid mewn ffordd sy鈥檔
gallu effeithio ar y modd rydym yn gyrru. Mae鈥檙 rhain yn cynnwys y posibilrwydd
ein bod yn cymryd mwy o amser i ymateb, a gall gyrru fod yn fwy blinedig a
chreu mwy o straen i ni. Bydd rhai鈥檔 sylwi ar y newidiadau hyn yng nghanol eu
pumdegau. Wrth i ni heneiddio, gall y mwyafrif ohonom yrru鈥檔 ddiogel heb unrhyw
broblemau, ond mae鈥檔 haws gwneud hynny gyda chymorth gyrrwr proffesiynol.鈥
Mae gweithdy am ddim ddydd Mercher 11 Chwefror am 1.30pm yn Clwyd Theatr Cymru,
yr Wyddgrug. I neilltuo lle, neu i gael gwybod rhagor, ffoniwch yr Uned
Diogelwch Ffyrdd ar 01352 704498