Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Plant ysgol yn archwilio Bydoedd Coll 鈥 Rhaglen Artist Preswyl Ysgolion
Published: 04/02/2015
Bydd plant Ysgol Gynradd Ewloe Green, Ysgol y Pentref Penarl芒g ac Ysgol Gynradd
Penarl芒g yn Ewlo yn gwisgo eu hetiau fforio ac yn ymchwilio Bydoedd Coll.
Trwy nawdd gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Chyngor Sir y Fflint, bydd y
disgyblion yn gweithio ochr yn ochr ag artist tecstilau proffesiynol, Cefyn
Burgess, i greu gwaith celf yn seiliedig ar y thema Byd Coll鈥.
Bydd Rhaglen Artist Preswyl Ysgolion yn dod i ben gydag arddangosfa yn Clwyd
Theatr Cymru rhwng dydd Mawrth 10 Mawrth a dydd Mawrth 7 Ebrill, 2015 gyda
gwaith celf gan Cefyn ar disgyblion.
Dywedodd y Cyng. Chris Bithell, Aelod Cabinet Addysg Cyngor Sir y Fflint:
鈥淢ae hwn yn gyfle gwych i ddisgyblion ac athrawon weithio ochr yn ochr ag
artist proffesiynol i ddatblygu eu sgiliau creadigol, ac rydw in siwr y bydd
pawb yn mwynhau鈥檙 profiad. Edrychaf ymlaen at weld y gwaith syn cael ei greu
drwyr prosiect hwn. Maer celfyddydau yn darparu mynediad i ddysgu mewn
amgylchedd cyfoethog a chreadigol ac yn creu atgofion am byth.鈥
Nodyn y golygydd
Cysylltwch ag ysgolion unigol ar gyfer lluniau.
Mae Cefyn Burgess yn artist preswyl yn yr ysgolion canlynol ar y dyddiadau
canlynol:
10-13 Chwefror - Ysgol y Pentre Penarl芒g
24-27 Chwefror 鈥 Ysgol Gynradd Ewloe Green
(hefyd, 27-30 Ionawr - Ysgol Gynradd Penarl芒g)
Gwybodaeth am yr Artist:
Ganwyd Cefyn Burgess ym Methesda ac mae o erbyn hyn yn ddylunydd ac yn wehydd
ffabrig Cymreig traddodiadol syn enwog ar draws y byd. Cafodd ei addysg yn
Ysgol Dyffryn Ogwen, cyn astudio cwrs celf sylfaen ym Mirmingham Polytechnig ac
ennill gradd BA (Anrh) mewn Ffasiwn a Thecstilau ym Manceinion. Yn dilyn hyn,
bu iddo gwblhau MA mewn tecstilau wediu gwehyddu yn y Coleg Celf Brenhinol.
Mae ganddo weithdy yn Rhuthun.