香港王中王最快开奖结果

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Clwb Menter Sir y Fflint

Published: 12/02/2015

Ydych chi鈥檔 entrepreneur gyda syniad busnes ond nad ydych yn gwybod sut i鈥檞 ddatblygu ir lefel nesaf? Mae Clwb Menter Sir y Fflint yn cynnig cymorth a chyngor ynglyn 芒 sefydlu eich busnes eich hun. Gyda gweithdai am ddim gan Brifysgol Glyndwr, mae鈥檙 amgylchedd llawn gwybodaeth a chyfeillgar yn creu cyfle rhwydweithio rhagorol. Cynhelir sesiynau grwp bob yn ail dydd Gwener yng Nghampws Cymunedol John Summers 10am tan 12 hanner dydd. Mae鈥檙 clwb menter yn gyfle gwych i unigolion gael cymorth i ddatblygu syniadau busnes newydd neu gefnogaeth ar gyfer busnesau newydd. Mae鈥檙 clwb yn annog pobl busnes i ddod at ei gilydd a rhwydweithio ac yn cynnig gweithdai am ddim i gynorthwyo i sefydlu a marchnata busnesau. Dywedodd y Cynghorydd Derek Butler, Aelod Cabinet dros Ddatblygu Economaidd: 鈥淏yddwn yn annog unrhyw un syn dechrau ym myd busnes 鈥 neu sy鈥檔 ystyried sefydlu busnes 鈥 i ymuno 芒 Chlwb Menter Sir y Fflint. Mae鈥檔 flaenoriaeth i鈥檙 Cyngor i gefnogi pobl mewn busnes a chyflogaeth ac mae Cymunedau鈥檔 Gyntaf Sir y Fflint yn gweithio鈥檔 galed i ddiwallu鈥檙 nod hwnnw.鈥 I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch 芒 Beverly Moseley Cymunedau鈥檔 Gyntaf ar 01244 846090.