Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Campws Dysgu Treffynnon - gwaith yn dechrau
Published: 30/01/2015
Mae gwaith wedi dechrau ar Gampws Dysgu blaenllaw Treffynnon gwerth 拢30 miliwn.
Dechreuodd y gwaith o baratoir safle ddydd Llun, 19 Ionawr.
Bydd yr ysgol gynradd a鈥檙 ysgol uwchradd newydd ar yr un safle, sef safle
presennol yr Ysgol Uwchradd.
Bydd un ysgol gynradd newydd yn cymryd lle Ysgol Babanod Perth y Terfyn ac
Ysgol Iau y Fron a bydd yn gwasanaethu dysgwyr hyd at 11 oed. Bydd yr ysgol
gynradd yn rhannu safle 芒 chyfleuster newydd ar gyfer Ysgol Uwchradd Treffynnon
a fydd yn cael ei adeiladu er mwyn darparu addysg i rai 11-16 oed.
Disgwylir i鈥檙 ysgolion newydd agor fis Medi 2016 a bydd y cyfleusterau
presennol yn parhau i gael eu defnyddio hyd nes yr adeg hynny i sicrhau nad oes
unrhyw aflonyddwch ar y dysgwyr.
Bydd lle i 600 o ddisgyblion yn yr ysgol uwchradd trillawr arfaethedig a lle i
315 o ddisgyblion yn yr ysgol gynradd unllawr. Bydd plant cynradd a myfyrwyr
oedran uwchradd yn cael eu haddysgu yn y llety diweddaraf or radd flaenaf
gydar holl gyfleusterau TG modern i gynorthwyo gyda dysgu.
Mae manylion y cynigion, gan gynnwys taith rithwir 3D, ar gael ar wefan y
Cyngor.
Dywedodd Chris Bithell, Aelod Cabinet Addysg Cyngor Sir y Fflint:
Rwyn hynod falch bod y gwaith o adeiladu鈥檙 campws dysgu newydd cyffrous hwn
yn Nhreffynnon bellach ar waith. Bydd yn gyfleuster newydd rhagorol a modern ar
gyfer plant, pobl ifanc a鈥檙 gymuned ehangach. Maer cynlluniau hyn yn rhan o
fuddsoddiad a gynlluniwyd gan Sir y Fflint yn eu hysgolion o dan Raglen i
Sicrhau Addysg ac Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru.鈥
Gan siarad ar ran penaethiaid y tair ysgol, dywedodd Peter Davies o Ysgol Iau
Ysgol y Fron:
Mae plant a chymuned Treffynnon yn haeddu鈥檙 gorau, a dyna beth fydd ganddynt
ar 么l i adeiladau鈥檙 ysgolion newydd gael eu cwblhau. Wrth i ni weithio i
sicrhau鈥檙 addysg o safon gorau ar gyfer plant Treffynnon, rydym yn gwybod y
bydd eu profiad dysgu鈥檔 cael ei wella鈥檔 enfawr gan y buddsoddiad yn yr hyn a
fydd yn gyfleuster newydd ffantastig ar gyfer y gymuned.
Nodyn i Olygyddion
Disgwylir y bydd seremoni torri tir swyddogol yn digwydd ym mis Chwefror,
gyda鈥檙 dyddiad iw gadarnhau鈥檔 fuan.