Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Hyfforddiant am ddim ar gyfer busnesau Canol Tref Treffynnon
Published: 10/02/2015
Hyfforddiant am ddim ar gyfer busnesau Canol Tref Treffynnon.
Mae busnesau canol tref Treffynnon yn cael eu hannog i fynychu dwy sesiwn
hyfforddi am ddim a gaiff eu cynnal yn y dref cyn hir.
Ddydd Mawrth 24 Chwefror, bydd Coleg Cambria yn darparu sesiwn ar Farchnata a
Rhagoriaeth Gwasanaeth Cwsmeriaid. Yna, ddydd Mawrth, 3 Mawrth bydd yr Academi
Sgiliau Manwerthu yng Ngholeg Llandrillo yn cynnal sesiwn or enw Ymgysylltu
芒鈥檆h cwsmeriaid yn yr 21ain ganrif.
Maer ddau gwrs yn cael eu darparu, diolch i gefnogaeth gan gronfa
Partneriaethau Trefi Llywodraeth Cymru. Byddant yn rhedeg o 5.30pm - 7.30pm a
byddant yn cael eu cynnal yn Llyfrgell Treffynnon. Gwahoddir busnesau canol
tref Treffynnon i fynychu un neur ddwy sesiwn.
Mae Karen Lloyd o The Flower Bowl yn y dref yn aelod o Grwp Busnes anffurfiol
Treffynnon. Dywedodd:
鈥淒win meddwl bod y cyrsiau hyfforddiant byr hyn yn dda iawn. Er fy mod i wedi
rhedeg fy musnes fy hun am nifer o flynyddoedd mae yna bob amser bethau newydd
i鈥檞 dysgu ac maen dda i gael y wybodaeth ddiweddaraf am y tueddiadau ar
syniadau diweddaraf.鈥
Dywedodd y Cynghorydd Derek Butler, Aelod Cabinet dros Ddatblygu Economaidd:
鈥淢ae hwn yn gyfle gwych ac maer hyfforddiant am ddim i unrhyw fusnes yng
nghanol tref Treffynnon. Fodd bynnag, mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig a rhaid
archebu ymlaen llaw. Gallwch archebu eich lle trwy gysylltu 芒 Clare Madders,
Swyddog Prosiect Adfywio yng Nghyngor Sir y Fflint drwy e-bost yn
clare.madders@flintshire.gov.uk neu dros y ff么n ar 01352 703225.鈥