香港王中王最快开奖结果

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwaith celf ar arfordir Sir y Fflint yn troin Llwybr Cerfluniau

Published: 10/02/2015

Mae morlin Sir y Fflint gam yn agosach at gael llwybr cerfluniau gyda鈥檙 ychwanegiad artistig diweddaraf ar Dock Road, Cei Connah. Mae Ceidwaid Arfordirol Sir y Fflint a busnes lleol, GJ Maintenance Engineering Limited, wedi dod at ei gilydd i gomisiynu, dylunio, adeiladu a gosod yr ychwanegiad diweddaraf a wnaethpwyd yn Sir y Fflint ar gyfer yr atyniad arfordirol hwn sy鈥檔 tyfu鈥檔 gyflym iawn. Meddai鈥檙 Cynghorydd Aaron Shotton , Arweinydd y Cyngor, ac aelod o鈥檙 ward lleol: Mae hwn yn mynd i fod yn ychwanegiad hyfryd i鈥檔 llwybr cerfluniau. Mae鈥檔 seiliedig ar long hanesyddol Kathleen and May, a adeiladwyd ar Dock Road, Cei Connah, ac a ymddangosodd yn y rhaglen deledu Onedin Line. Mae鈥檙 model wedi鈥檌 adeiladu i raddfa allan o ddur gwrthstaen gan brentisiaid cwmni GJ Maintenance Engineering a bydd yn eistedd yn falch ar y blaendraeth wrth Lwybr Arfordir Cymru.鈥 Meddai鈥檙 Cynghorydd Bernie Attridge, Dirprwy Arweinydd, Aelod o鈥檙 Cabinet dros yr Amgylchedd ac aelod o鈥檙 ward lleol: Rwy鈥檔 gyffrous iawn fod y cerflun hwn yn cael ei osod ar Dock Road. Mae鈥檙 gwaith sydd wedi mynd iddo yn dangos safon a chalibr peirianwyr Sir y Fflint a Chymru. Ynghyd 芒 Draig Bagillt, mae鈥檔 eistedd yn falch fel atyniad ymwelwyr allweddol i鈥檙 Parc Arfordirol newydd yn Sir y Fflint.鈥 Meddai Gary Jackson, perchennog GJ Maintenance Engineering Limited: Rydym yn hynod falch o allu cynhyrchur darn hwn ar gyfer cymuned yr arfordir, Sir y Fflint a Chymru. Mae hwn yn ddarn o safon a adeiladwyd gan brentisiaid yn eu hamer sb芒r rhwng gwaith arall. Rhoddir cydnabyddiaeth i Gareth Phillips, un o鈥檔 pump prentis, am ei waith, Gobeithiwn y caiff ei werthfawrogi am flynyddoedd i ddod yn y lleoliad hanesyddol pwysig hwn. 鈥淔el yr aber, mae cerflun Kathleen and May wedi鈥檌 lunio i ymddangos yn wahanol ar adegau gwahanol o鈥檙 dydd yn dibynnu ar y golau a鈥檙 llanw,鈥 meddai Gareth. Mae鈥檙 gwaith celf yn cael ei osod gan gwmni Marland Marine a Chymdeithas Cychwyr y Cei. Mae Clwb Sg茂o Dwr Glannau Dyfrdwy wedi agor ei safle ar gyfer y lansiad. Ychwanegodd Mike Taylor, Uwch Geidwad Arfordirol: 鈥淢ae鈥檔 ddarn hyfryd o waith sy鈥檔 cynnwys manylion cywrain megis rhaffau, hwylbrennau ac estyllod rigin. Mae wedi鈥檌 osod ar bwynt allweddol ar Lwybr Arfordir Cymru 鈥 Dock Road lle bydd dros 13,000 o bobl yn mynd heibio bob mis. Mae cerfluniau eraill ar hyd arfordir Sir y Fflint yn cynnwys Llwybr Hanesyddol Rhyngweithiol Saltney gan Mike Johnson; Draig Bagillt gan y Carlyles; Sid Saltney, Y Pysgotwr Eog, Cragen Gocos Maes Glas, Bachgen Maes Glas a Bob Llys Bedydd gan Mike Owen; y Goleudy ar hyd Talacre Coast Road a cherflun y porth yn Nhraeth Talacre. Nodyn i Olygyddion Fe鈥檆h gwahoddir i dynnu lluniau o鈥檙 cerflun am 10am ddydd Mercher 11 Chwefror y tu allan i Glwb Sg茂o Dwr Glannau Dyfrdwy yn Nociau Cei Connah.