Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cais Amgueddfa a Pharc Treftadaeth Dyffryn Maes Glas i Gronfa Dreftadaeth y Loteri
Published: 12/02/2015
Mae disgwyl i鈥檙 Cabinet gymeradwyo cais am arian o Gronfa Dreftadaeth y Loteri
i ailddatblygu Amgueddfa a Threftadaeth Dyffryn Maes Glas ddydd Mawrth (17
Chwefror).
Nod prosiect Datgelu Dyffryn Maes Glas yw rhoi鈥檙 ardal yn bendant ar y map o
ran ei phwysigrwydd hanesyddol. Bydd y gwaith arfaethedig yn golygu ailwampio a
thrwsio adeiladau hanesyddol ac ymestyn ac ailfodelu鈥檙 dderbynfa. Caiff
arweinydd gweithgareddau ei ddefnyddio i redeg rhaglen o ddigwyddiadau a
gweithgareddau, a chaiff y cyfryngau digidol eu defnyddio fel rhan o gynlluniau
i greu dulliau gwell o ddehongli adeiladau a chasgliadau. Bydd mannau clywedol
ar gael i glywed atgofion a gasglwyd yn sgil prosiect hanes. Bwriedir hefyd
fynd ati i wella鈥檙 llwybrau a鈥檙 mynedfeydd.
Cyngor Sir y Fflint yw perchennog Amgueddfa a Pharc Treftadaeth Dyffryn Maes
Glas a chaiff ei reoli gan Ymddiriedolaeth Dyffryn Maes Glas. Mae Cyngor Sir y
Fflint wedi ymrwymo i gael hyd i ddulliau cynaliadwy o ddarparu gwasanaethau
lleol ac asedau cyhoeddus, gan gynnwys Amgueddfa a Pharc Treftadaeth Dyffryn
Maes Glas. Yn 2013, cafodd y prosiect gymeradwyaeth Cylch 1 gan Gronfa
Dreftadaeth y Loteri, ac mae鈥檔 awr yn barod i鈥檞 gyflwyno ar gyfer dyraniadau
Cylch 2, gan obeithio cael dros 拢940,000 o gyllid.
Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, y Dirprwy Arweinydd a鈥檙 Aelod Cabinet
dros yr Amgylchedd:
鈥淢ae Datgelu Dyffryn Maes Glas yn gynnig gwych a chanddo amcanion uchelgeisiol.
Wrth wraidd y prosiect y mae cyfraniad Maes Glas at y chwyldro diwydiannol,
sydd wedi creu鈥檙 byd yr ydym yn ei adnabod heddiw.鈥
Yn 么l y Cynghorydd Chris Bithell, yr Aelod Cabinet dros Addysg, sy鈥檔 gyfrifol
am lyfrgelloedd, diwylliant ac amgueddfeydd:
鈥淢ae hwn yn gynnig cyffrous iawn. Os bydd yn llwyddiannus, bydd yn datgelu
hanes cudd yr ardal a鈥檙 rhai a fu鈥檔 byw ac yn gweithio yma. Rydyn yn rhagweld y
bydd hyn yn deny gwirfoddolwyr ac ymwelwyr.鈥
Delweddau