Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cronfar Cyngor a Phennu Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2015-16
Published: 18/02/2015
Cronfa鈥檙 Cyngor
Eleni, maer Cyngor wedi gorfod cyrraedd targed arbedion o dros 拢18 miliwn o
ganlyniad i ostyngiad pellach yng nghymorth grant y Llywodraeth. Daw hyn ar 么l
gorfod dod o hyd i dros 拢20 miliwn o arbedion y ddwy flynedd ddiwethaf. Y
targed arbedion ar gyfer y flwyddyn ariannol newydd yw 7.3% o gyllideb net y
Cyngor.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Aaron Shotton 鈥淩ydym ni wedi pennu
nod clir fel Gweinyddiaeth y Cyngor y byddem yn gwneud ein gorau glas i
ddiogelu gwasanaethau rheng flaen i gymunedau er gwaethaf y pwysau cyllidebol
cynyddol. Er bod rhai cynigion heriol yn y gyllideb, fel y gellid disgwyl,
rydym ni wedi cyrraedd ein nod i raddau helaeth.鈥
Ychwanegodd y Cynghorydd Shotton 鈥淒ydi hyn ddim wedi bod yn hawdd. Maer
Cabinet wedi arwain y ffordd gyda chefnogaeth lawn ei swyddogion a hoffwn
gofnodi fy ngwerthfawrogiad or cymorth y mae鈥檙 holl gynghorwyr wedi ei
ddarparu a diolchaf iddyn nhw am gydweithio er lles Sir y Fflint ai
thrigolion. Ar ddiwedd y dydd, maen rhaid i ni bennu cyllideb gytbwys yn 么l y
gyfraith, a thrwy weithio gydan gilydd rydym ni wedi llwyddo i wneud hynny.鈥
Daw鈥檙 rhan fwyaf or arbedion yn sgil symleiddior Cyngor ac arbed costau. Dyma
yw ymagwedd y Cyngor dros y blynyddoedd diwethaf.
Ychwanegodd y Prif Weithredwr, Colin Everett, air o rybudd gan ddweud 鈥淩ydym ni
wedi gorfod canfod arbedion o oddeutu 拢40 miliwn yn y tair cyllideb ddiwethaf.
Yn seiliedig ar y rhagfynegiadau diweddaraf o effeithiau disgwyliedig rhaglen
galedi鈥檙 Deyrnas Unedig ar sector cyhoeddus yng Nghymru, bydd yn rhaid ir
Cyngor ddod o hyd i 拢30 miliwn pellach yn ystod 2016-17 a 2017-18. Bydd yn
rhaid i ni hefyd ddod yn fwy creadigol a radical pob blwyddyn. Ni fyddwn yn
cyflawni鈥檙 arbedion sydd eu hangen drwy arferion gweithio mwy deallus yn unig.
Dyma pam rydym ni wedi bod yn apelio at gymunedau i weithio efo ni dan ein
rhaglen trosglwyddo asedau cymunedol.鈥
Fel y dywedodd y Cynghorydd Shotton 鈥渋 gefnogi datganiad angerddol Prif
Weinidog Cymrur penwythnos diwethaf, mae terfyn i鈥檙 hyn y gall ein
gwasanaethau cyhoeddus eu cymryd yn wyneb y toriadau blynyddol. Maen rhaid
cael terfyn ar y toriadau yn y gyllideb ar lefel y Deyrnas Unedig os ydym am
osgoi canlyniadau trychinebus mewn blynyddoedd i ddod. Dim ond hyn a hyn fedrwn
ni ei wneud heb ryddhad ariannol. Maen rhaid i ni gael digon o arian i
ddiwallu anghenion Sir y Fflint.鈥
Cyfrif Refeniw Tai
Yn dilyn penderfyniad tenantiaid Cyngor Sir y Fflint i aros gydar Cyngor yn
2012, yn hytrach na chael eu trosglwyddo i landlord cymdeithasol newydd, mae
Gwasanaeth Tair Cyngor wedi mynd o nerth i nerth.
Maer gwasanaeth tai wedi gwella鈥檔 sylweddol ac yn rhoi gwasanaeth dydd i ddydd
gwell i denantiaid yn ogystal 芒 chynhyrchu arian ychwanegol, drwy weithio鈥檔
ddoethach ac yn fwy effeithlon, a gwario ar welliannau ir cartref ac
atgyweiriadau.
Eleni, bydd y Cyngor yn gwario cyllideb flynyddol o 拢20 miliwn ar welliannau i
gartrefi ac erbyn 2020 bydd pob cartref yn cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Shotton 鈥淩ydym ni wedi bod ar daith
gydan tenantiaid. Mae gennym ni bellach wasanaeth llawer gwell ond, am y tro
cyntaf ers blynyddoedd lawer, rydym yn bwriadu adeiladu tai Cyngor newydd fel
rhan o鈥檔 cytundeb ariannu efo Llywodraeth Cymru. Er gwaethaf yr holl ofid o
galedi yn y sector cyhoeddus, mae hyn yn newyddion da i bobl Sir y Fflint.鈥
Ychwanegodd Cynghorydd Helen Brown, Aelod Cabinet, 鈥淩ydym ni wedi ailennill
ymddiriedaeth ein tenantiaid drwy ddatblygu鈥檙 gwasanaeth. Mae popeth rydym ni鈥檔
bwriadu ei wneud o ran gwario ein harian ar wella cartrefi i Safon Ansawdd Tai
Cymru yn cael ei wneud mewn ymgynghoriad agos 芒 thenantiaid a Chynghorwyr.
Rydym ni鈥檔 gweithio gydan gilydd fel t卯m cryf ac rydw i鈥檔 falch iawn on
llwyddiannau.鈥
Meddai Dirprwy Arweinydd y Cynghorydd Bernie Attridge 鈥淢ae hwn yn ddiwrnod
hanesyddol ar gyfer Sir y Fflint. Mae gennym ni weledigaeth ar gyfer dyfodol
tai Cyngor y Sir ac maer buddsoddiad gwerth miliynau yn ein stoc tai o dros
7000 yn y pum mlynedd nesaf yn creu gwaith a swyddi i gwmn茂au lleol.鈥
Bydd rhenti Cyngor yn codi yn unol 芒 pholisi Llywodraeth Cymru i ddod 芒 rhenti
cynghorau a chymdeithasau tai yn unol 芒i gilydd ar draws Cymru. Bydd taliadau
gwasanaeth yn parhau i fod yn deg ac yn fforddiadwy, fel yr addawyd i
denantiaid y Cyngor yn 么l yn 2012 pan fu iddyn nhw bleid