Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Art in the Library 鈥 Lliw yn y Llyfrgell
Published: 04/03/2015
Llyfrgell Treffynnon dydd Llun 2 Mawrth tan dydd Mawrth 31 Mawrth 2015 鈥
Ffotograffiaeth Ceridwen Barkley
Gwaith ffotograffiaeth bendigedig Ceridwen Barkley fydd y cyntaf o gyfres o
arddangosfeydd i鈥檞 cynnal mewn llyfrgelloedd ledled Sir y Fflint yn ystod 2015
er mwyn arddangos gwaith artistiaid lleol.
Nod Art in the Library 鈥 Lliw yn y Llyfrgell yw cynorthwyo artistiaid lleol,
rhai sydd erioed wedi arddangos eu gwaith o鈥檙 blaen, drwy roi llwyfan iddynt
arddangos eu gwaith yn gyhoeddus. Drwy gydol y flwyddyn bydd rhaglen
arddangosfeydd yn llyfrgelloedd Sir y Fflint yn cynnwys peintiadau gan Angie
Hoopert, Emma-Jayne Holmes a Clayton Langford; darluniau gan Scott Bongo a
gwaith ffotograffiaeth gan Ceridwen Barkley.
Meddai Ceridwen wrth s么n am ei gwaith:
Mae ein bywydau mor brysur ac yn aml nid ydynt yn rhoi digon o amser i edrych
ar y byd o鈥檔 cwmpas 鈥 i weld o ddifrif y rhyngweithio sy鈥檔 digwydd rhwng pobl
neu anifeiliaid, dyfnder y lliw mewn plu neu ystumiau doniol mae angen i ni roi
amser i arsylwi.
鈥淒echreuodd fy angerdd tuag at ffotograffiaeth drwy chwilfrydedd ac mae wedi
arwain at ymwybyddiaeth gynyddol o鈥檙 byd o鈥檓 cwmpas. Gobeithiaf fod fy
lluniau鈥檔 portreadu rhywfaint o鈥檙 diddordeb a鈥檙 angerdd hwnnw.鈥
Er fod ei lluniau鈥檔 cynnwys ffotograffau a dynnwyd yn y DU, Ffrainc, Yr Almaen
a Denmarc, ei hoff le i ddal natur ar ei orau yw cefn gwlad gogledd Cymru, sy鈥檔
darparu cefnlen brydferth.
Meddai鈥檙 Cynghorydd Chris Bithell, Aelod o鈥檙 Cabinet dros Addysg:
Mae hon yn rhaglen ardderchog. Nid yn unig y mae鈥檔 dangos sut y gall celf roi
dimensiwn ychwanegol i ymweliad 芒鈥檙 llyfrgell, ond rwy鈥檔 filch hefyd fod t卯m
Celfyddydau, Diwylliant a Digwyddiadau Cyngor Sir y Fflint a鈥檔 gwasanaeth
Llyfrgelloedd yn cefnogi ein doniau lleol fel hyn 鈥 drwy arddangos eu gwaith a
chefnogi ein hartistiaid fel busnesau. Gellir gweld yr arddangosfa yn
Llyfrgell Treffynnon drwy gydol mis Mawrth yn ystod oriau agor arferol.鈥
I ganfod mwy am waith ffotograffiaeth Ceridwen Barkley edrychwch ar
www.ceridwenbarkleyphotography.co.uk
Nodiadau i Olygyddion
Dau lun o鈥檙 arddangosfa:
Am wybodaeth bellach cysylltwch 芒 Gwenno Jones ar
gwenno.e.jones@flintshire.gov.uk neu 01352 702471
Mae croeso i ffotograffwyr fynd i Lyfrgell Treffynnon i dynnu lluniau o鈥檙
arddangosfa 鈥 ewch at ddesg y llyfrgell ar 么l cyrraedd.