Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cynllun Datblygu Lleol
Published: 04/03/2015
Bydd cyfnod ymgynghori o chwe wythnos ar ddogfennau yn ymwneud 芒 Chynllun
Datblygu Lleol y Cyngor sy鈥檔 fod i ddechrau ar ddydd Llun 9 Mawrth, a chyda鈥檙
bwriad i orffen ar ddydd Llun 20 Ebrill 2015.
Fel rhan o鈥檙 gwaith i baratoir CDLl, bydd y Cyngor yn rhyddhau cynifer o
ddogfennau allweddol cyn gynted 芒 phosib y Gofrestr Safleoedd Posibl,
Methodoleg Asesu Safleoedd Ymgeiswyr,
Papur Cefndir a Phapurau Pwnc sy鈥檔 cynnwys amrywiaeth o faterion.
Mae鈥檙 gwaith yn cynrychioli dechrau cyfnod lle bydd y Cyngor yn ymgysylltu 芒鈥檙
cyhoedd ac yn ymgynghori 芒 nhw yn ogystal 芒 rhanddeiliaid allweddol er mwyn
nodi materion sydd angen sylw gan y Cynllun, y weledigaeth a鈥檙 amcanion sy鈥檔
nodir hyn y maer Cynllun yn ceisio ei gyflawni, ac amrywiaeth o opsiynau iw
hystyried yn nhermau lefel y twf a dosbarthu鈥檙 twf hynny.
Ymgynghorir ag aelodau or cyhoedd ar Fethodoleg Asesu Safleoedd Ymgeisiol,
Papur Cefndir a Phapurau Pwnc.
Bydd y gwaith hwn yn arwain at gyhoeddi ac ymgynghori ar gopi drafft o鈥檙 CDLl
cyn-adneuo a fydd yn cynnwys y strategaeth a ffefrir ar gyfer y Cynllun yn
ogystal 芒 pholis茂au allweddol a chynigion penodol.
Y dogfennau syn cael eu rhyddhau yw:
i) Cofrestr Safleoedd Ymgeisiol
Maer Cyngor yn cyhoeddi Cofrestr Safleoedd Ymgeisiol yn dilyn y Galwad yn
2014 am Safleoedd Ymgeisiol.
Maer Gofrestr yn cynnwys 734 o safleoedd sydd wedi eu cyflwyno gan
ddatblygwyr, tirfeddianwyr neu bart茂on eraill 芒 diddordeb i gael eu hystyried
gan y Cyngor naill ai i i gael eu clustnodi ar gyfer datblygu neu i gael eu
diogelu rhag datblygiad. Trwy gyhoeddir
Gofrestr nid yw hynny鈥檔 awgrymu y bydd y safleoedd yn cael eu cynnwys yn y
Cynllun, dim ond eu bod wedi bod eu cyflwyno ir Cyngor iw hasesu. Maer
Gofrestr yn cael ei ddarparu er mwyn rhoi gwybodaeth yn unig ac nid ywn destun
ymgynghoriad cyhoeddus ffurfiol. Felly, nid ywr Cyngor yn gwahodd sylwadau ar
y safleoedd.
ii) Papur Cefndir Methodoleg Asesu Safleoedd Ymgeisiol
I gyd-fynd 芒r Gofrestr o Safleoedd Ymgeisiol, maer Cyngor yn cyhoeddi Papur
Cefndir ar gyfer ymgynghori sy鈥檔 nodi sut y bydd y Safleoedd Ymgeisiol yn cael
eu hasesu. Bydd hyn yn destun ymarfer ymgynghori 6 wythnos o hyd gan fod y
Cyngor yn awyddus i sicrhau bod Consensws eang ynghylch sut y bydd y Safleoedd
Ymgeisiol yn cael eu hasesu.
iii) Papurau Pwnc
Mae cyfres o 18 o Bapurau Pwnc wedi cael eu paratoi sy鈥檔 cynnwys amrywiaeth o
faterion. Mae pob Papur Pwnc yn nodi materion i fynd ir afael 芒 nhw wrth
baratoir CDLl, yn ogystal 芒 gosod allan canllawiau cynllunio cenedlaethol ar y
pwnc hwnnw. Maer Papurau Pwnc hefyd yn destun ymarfer ymgynghori 6 wythnos er
mwyn sicrhau barn y cyhoedd a rhanddeiliaid allweddol o ran sut y dylid mynd
i鈥檙 afael 芒 gwahanol bynciau a materion cysylltiedig wrth baratoir Cynllun.
Bydd yr holl ddogfennau ar gael ar wefan y Cyngor ac ar gopi caled yn
Swyddfeydd a llyfrgelloedd y Cyngor. Dylai sylwadau gael eu hanfon ymlaen at
developmentplans@flintshire.gov.uk