Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Y diweddaraf am y cynllun datblygu tai arloesol
Published: 13/03/2015
Mae rhaglen arloesol i adeiladu cartrefi Cyngor newydd a thai fforddiadwy yn
Sir y Fflint yn mynd rhagddi鈥檔 dda iawn, fel y bydd Aelodaur Cabinet yn clywed
ddydd Mawrth (17 Mawrth).
Mae Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol Sir y Fflint yn uchelgeisiol ac yn cynnwys
codi 500 o gartrefi newydd yn y Sir yn ystod y pum mlynedd nesaf - 200 ohonynt
yn dai Cyngor.
Bydd y rhaglen yn dechrau gydag ailddatblygu tri safle - dau safle trefol ac un
gwledig. Sef safle hen fflatiau deulawr yn y Fflint sydd wedi鈥檜 clirio i wneud
lle i oddeutu 95 o dai a fflatiau, safle hen Custom House School yng Nghei
Connah, a safle gwledig yng Nghoed-llai.
Mae proses gaffael mawr ar y gweill i benodi partner i ddatblygur rhaglen. Y
pedwar sefydliad sy鈥檔 rhan o鈥檙 trafodaethau caffael gydar Cyngor yw: Galliford
Try; Keepmoat; Lovell a Wates Living Space, a bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn
cael ei gyhoeddi fis Mai 2015.
Ochr yn ochr 芒r gwaith caffael, mae Safon Tai Sir y Fflint yn cael ei
ddatblygu i lywio cynllun a manyleb y tai newydd arfaethedig, gan gynnwys
cysondeb ac ansawdd da o ran edrychiad mewnol ac allanol y tai, effeithlonrwydd
ynni a pharcio digonol.
Maer rhaglen hefyd yn cynnwys datblygiadau posibl mewn rhannau eraill or sir,
sy鈥檔 cynnwys cartrefi iw gwerthu鈥檔 breifat ac adeiladu eiddo dibreswyl. Ers yr
adroddiad diwethaf a gyflwynwyd ir Cabinet fis Medi, mae safleoedd dangosol
ychwanegol wedi eu hawgrymu at y rhaglen, gan gynnwys safle鈥檙 hen Orsaf Heddlu
a鈥檙 Llys Ynadon yn y Fflint ac Ysgol Delyn yn yr Wyddgrug. Argymhellir bod
Aelodaur Cabinet yn cymeradwyo cynnwys y safleoedd newydd yn y cynllun.
Bydd adroddiad pellach yn cael ei gyflwyno ir Cabinet ym mis Mai 2015 i adrodd
ar
ganlyniadaur broses gaffael.
Dywedodd y Cynghorydd Helen Brown, Aelod Cabinet Tai:
鈥淢aen braf gweld y rhaglen yn mynd rhagddi鈥檔 dda wrth i ni symud yn nes tuag
at gyrraedd ein nod o ddarparu tai fforddiadwy sydd wir eu hangen yn y Sir. Yn
ogystal 芒 hynny, bydd y datblygiadau newydd arfaethedig o fudd i bobl leol gan
eu bod yn creu gwaith a swyddi i fusnesau lleol.鈥
Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd y Cyngor:
鈥淩ydw i鈥檔 falch o gyhoeddi鈥檙 cyfle cyffrous hwn i gyflawni blaenoriaethaur
Cyngor o ran darparu Cartrefi Cyngor newydd, tai fforddiadwy - a swyddi - i
bobl Sir y Fflint. Gydar Cyfrif Refeniw Tai cyn bo hir yn dod yn
hunangyllidol, rydym ni鈥檔 falch ein bod nin gallu buddsoddi mewn tai
fforddiadwy yn y Sir. Mae ein cyhoeddiad diweddar i fuddsoddi 拢20 miliwn i
wella cartrefi presennol y Cyngor yn dangos ein hymrwymiad.鈥