Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cynllun Pryni Ynni - Ymestyn y terfyn amser
Published: 18/03/2015
Mae gan drigolion Sir y Fflint tan ddydd Sul 22 Mawrth i gofrestru ar gyfer
cynllun prynu ynni ar y cyd ar gyfer Cymru gyfan, a fydd yn eu galluogi i arbed
arian ar eu biliau tanwydd.
Mae Cyd Cymru / Wales Together yn brosiect newid cyflenwyr ynni a ariennir gan
Lywodraeth Cymru. Mae newid cyflenwr ynni ar y cyd yn golygu bod nifer fawr o
gartrefi鈥檔 dod at ei gilydd i brynu eu hynni, a thrwy wneud hynny gall Cyd
Cymru / Wales Together ddod o hyd i鈥檙 prisiau gorau.
Ers y terfyn amser gwreiddiol (sef 1 Mawrth), mae Cyd Cymru / Wales Together ac
energyhelpline wedi sicrhau tariffau dau danwydd (nwy a thrydan) unigryw a all
arbed 拢429 y flwyddyn i gartref cyffredin yn y DU. Maent hefyd wedi sicrhau
amryw o dariffau ynni unigryw eraill ar gyfer trydan yn unig, cwsmeriaid
economi 7, mesuryddion rhagdalu a mwy.
Mae鈥檔 hawdd iawn newid ond dim ond drwy gofrestru 芒 Chyd Cymru / Wales Together
y gallwch elwa o鈥檙 tariffau unigryw hyn.
Meddai鈥檙 Cynghorydd Bernie Attridge, Dirprwy Arweinydd ac Aelod o Gabinet yr
Amgylchedd:
鈥淕allwch fod yn rhan o鈥檙 prosiect newid cyflenwyr ynni ar y cyd hwn drwy edrych
ar wefan www.cydcymru-energy.com neu ffonio鈥檙 ganolfan gyswllt ar 0800 093
5902. Mae鈥檙 llinellau ff么n ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener 9am tan 8pm, a
dydd Sadwrn a dydd Sul 9am tan 5pm. Ceisiwch gael bil ynni diweddar wrth law
(nwy, trydan neu鈥檙 ddau) i鈥檆h helpu i ateb rhai o鈥檔 cwestiynau. Wrth gofrestru
芒 Chyd Cymru nid oes unrhyw gostau nac unrhyw orfodaeth arnoch i newid, ond
bydd modd i chi weld cymaint y gallech ei arbed 鈥 a chewch tan ddydd Sul 22
Mawrth i benderfynu p鈥檜n a ydych am newid ai peidio.鈥
Mae prosiect newid cyflenwyr ynni ar y cyd Cyd Cymru / Wales Together:
yn rhad ac am ddim i gofrestru
yn rhad ac am ddim i newid, os ydych yn dymuno gwneud hynny
ar gael i bawb sy鈥檔 byw yng Nghymru
ar gael i bob cartref waeth beth fo鈥檆h incwm neu fath o eiddo cyn belled a鈥檆h
bod yn talu eich bil ynni yn uniongyrchol i gwmni ynni
ar gael i gwsmeriaid mesuryddion rhagdalu ac mae鈥檔 bosibl y bydd modd iddynt
newid hyd yn oed os oes arian yn ddyledus i gyflenwr ynni presennol
yn dangos i chi sut y gallech arbed ar y cynigion tariff ynni newydd a holl
dariffau eraill y farchnad cyn i chi benderfynu newid
yn gadael i chi elwa o un o鈥檙 tariffau unigryw a ganfuwyd yn arbennig gennym.
* Cyfrifir yr arbediad yn erbyn bil cyfartalog o 拢1,305 fel y cyfrifwyd gan
Ofgem ym mis Chwefror 2015. Mae pob cyfrifiad yn seiliedig ar gartref sy鈥檔
gwneud defnydd cyfartalog o ddau danwydd ac yn talu drwy ddebyd uniongyrchol
misol. Mae defnydd cyfartalog yn cael ei ddiffinio gan OFGEM fel 13,500 kWh y
flwyddyn o nwy a 3,200 kWh y flwyddyn o drydan safonol.
**Mae鈥檙 tariffau buddugol yn costio 拢876 y flwyddyn am nwy a thrydan safonol ar
gyfraddau defnydd cyfartalog gan dalu鈥檔 fisol drwy ddebyd uniongyrchol. Y tro
diwethaf i dariff fod mor rhad 芒 hynny oedd mis Tachwedd 2010. Mae defnydd
cyfartalog yn cael ei ddiffinio gan OFGEM fel 13,500 kWh y flwyddyn o nwy a
3,200 kWh y flwyddyn o drydan safonol.