Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Ad-drefnu gwasanaethau llyfrgell a chanolfannau cysylltu Sir y Fflint
Published: 12/03/2015
Heddiw (dydd Iau 12 Mawrth) bydd y Cyngor Sir yn cyhoeddi cynigion i
foderneiddio ac ad-drefnu gwasanaethau鈥檙 llyfrgell yn Sir y Fflint ac agor
rhagor o Ganolfannau Sir y Fflint yn Cysylltu.
Bydd yn gofyn am farn pobl y Sir am聽 gynlluniau i gyflwyno rhwydwaith
effeithiol a chynaliadwy o lyfrgelloedd a Chanolfannau Sir y Fflint yn Cysylltu
mewn chwe phrif leoliad, sef Canolfannau Hamdden Cei Connah, yr Wyddgrug,
Bwcle, Treffynnon a Glannau Dyfrdwy. 聽
Mae cynnig gerbron i agor llyfrgell newydd sbon yng Nghanolfan Hamdden Glannau
Dyfrdwy a fyddai鈥檔 wasanaethu cymunedau Penarl芒g, Mancot a Queensferry lle mae
cyfleusterau rhan amser ar hyn o bryd mewn hen adeiladau nad ydynt yn cael eu
defnyddio鈥檔 aml. Gallai鈥檙 llyfrgell newydd fod ar agor i鈥檙 cyhoedd erbyn mis
Ionawr 2016.
Yn unol ag ymdrechion y Cyngor i聽 gynnwys cymunedau lleol yn y gwaith o redeg
rhai gwasanaethau, bydd yn聽 gofyn i bobl聽 Saltney, Mynydd Isa, Helygain a鈥檙
H么b, lle mae llyfrgelloedd rhan amser, a fyddai ganddynt ddiddordeb cynnal
naill ai鈥檙 adeilad neu鈥檙 gwasanaeth. Gall y Cyngor ddewis trosglwyddo adeiladau
a thir i鈥檙 gymuned neu聽 grwpiau elusennol er mwyn iddyn nhw redeg gwasanaethau.
Bydd y posibilrwydd o sefydlu llyfrgell bro a rhai gwasanaethau Sir y Fflint yn
Cysylltu mewn adeilad a reolir gan y gymuned yn Brychdyn yn cael ei archwilio
yn ystod y misoedd nesaf.聽
Mae gan y Cyngor dair Canolfan Sir y Fflint yn Cysylltu ar hyn o bryd, a hynny
yn Nhreffynnon, y Fflint a Chei Connah. Yno gall y cyhoedd fanteisio ar yr holl
wasanaethau o dan yr un to. Bydd dwy Ganolfan arall yn agor yn ystod y misoedd
nesaf yn Llyfrgell Bwcle a Llyfrgell yr Wyddgrug .
Mae鈥檙 Cyngor yn wynebu toriadau enfawr ac mae鈥檔 gorfod arbed dros 拢18 miliwn
dros y 12 mis nesaf yn unig. Bydd angen arbed llawer rhagor yn ystod y
blynyddoedd wedyn hefyd.
Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd y Cyngor: Fel y mae pobl Sir y
Fflint yn gwybod, mae her enfawr yn wynebu鈥檙 Cyngor o ran darparu gwasanaethau
芒 llai o adnoddau. Rydym wedi bod yn ystyried ffyrdd arloesol o geisio cynnal
gwasanaethau, gan eu darparu mewn ffyrdd gwahanol neu mewn llefydd gwahanol.
Mae rhaglen Sir y Fflint yn Cysylltu yn enghraifft o hyn eisoes a bydd yn
ehangu i ddod 芒 gwasanaethau鈥檔 agosach at y cymunedau. Drwy ymgysylltu 芒鈥檔
cymunedau lleol, rydym yn ymdrechu i gael hyd i atebion hirdymor a fydd,聽
gobeithio, yn ein galluogi i barhau i gynnig gwasanaethau. Mae hyn yn聽 gwbl
hanfodol mewn cyfnod o doriadau llym mewn gwasanaethau cyhoeddus yn
genedlaethol.
Dywedodd y Cynghorydd Chris Bithell, yr Aelod Cabinet dros Addysg:聽 Er ein bod
wedi cynnal ein rhwydwaith llyfrgelloedd yn Sir y Fflint, mae鈥檔聽 rhaid i ni鈥檔
awr ystyried ffyrdd gwahanol o ddarparu鈥檙 gwasanaeth, diogelu ei safon a
gwella鈥檙 cyfleusterau sydd ar gael. Er enghraifft, drwy ddarparu cyfleusterau
llyfrgell newydd yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy, gallem annog y rhai
sy鈥檔 defnyddio鈥檙 llyfrgell i fanteisio ar yr amrywiaeth ardderchog o
gyfleusterau hamdden yn yr adeilad, a鈥檙 sba. Byddai鈥檙 rhai sy鈥檔 defnyddio鈥檙
cyfleusterau hamdden hefyd yn gallu manteisio ar y llyfrau, y cyfrifiaduron a鈥檙
cyfleoedd yn y llyfrgell i astudio.鈥
Bydd Cabinet y Cyngor yn ystyried adroddiad ar y cynigion ddydd Mawrth 17
Mawrth. Yn dilyn cyfnod ymgynghori ynghylch y cynigion ar gyfer creu llyfrgell
yng Nghanolfan Hamdden G lannau Dyfrdwy, cyflwynir adroddiad arall i un o鈥檙
Pwyllgorau Craffu ac adroddiad arall i鈥檙 Cabinet ym mis Mai.