Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Diwrnod Glanhau Afon Dyfrdwy
Published: 27/03/2015
Yn ddiweddar bu dau ddeg pedwar o wirfoddolwyr o Glwb Rheoli Gwlyptiroedd a
Blodau Gwyllt Dyfrdwy yn rhoi help llaw i lanhau rhan o lannau Afon Dyfrdwy.
Ymunodd y Clwb 芒 Warden Arfordirol Gwasanaethau Cefn Gwlad Sir y Fflint, Karen
Rippin a Steve Hughes o Waith Tata Colors yn Shotton i gerdded ar hyd y glannau
yn clirio sbwriel a olchwyd i鈥檙 lan ar lanw鈥檙 gaeaf.
Dywedodd Karen Rippin, y Warden Arfordirol:
鈥淧lastigion oedd y sbwriel yn bennaf ond roedd yno hefyd hen deiars, metel
sgrap, nifer o arwyddion tai Ar Werth a hyd yn oed ysgol blygu bren.
Dywedodd Steve Hughes o waith Tata Colors yn Shotton:
鈥淩ydym wedi gweithio mewn partneriaeth 芒 Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir y Fflint a
Chlwb Blodau Gwyllt Dyfrdwy ers blynyddoedd lawer bellach ac mae ein
gweithgareddau wedi amrywio o ymgyrchoedd i lanhau鈥檙 aber i ddiwrnodau torri
coed a gwneud sglodion.鈥
Dywedodd Alex Williams o Glwb Blodau Gwyllt Dyfrdwy
鈥淢ae Clwb Blodau Gwyllt Dyfrdwy wastad wedi chwarae rhan weithredol mewn
cadwraeth er mwyn cadwr aber mewn cyflwr penigamp ar gyfer adar a bywyd gwyllt
ac mae gwneud hynnyn hollbwysig.
Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd:
鈥淢ae gweithio mewn partneriaeth rhwng gwirfoddolwyr, busnesau lleol ar Cyngor
Sir yn ffordd amhrisiadwy o gadw ein hamgylchedd a hoffem ddiolch i Glwb Blodau
Gwyllt Dyfrdwy ac i Tata Colors am eu cymorth parhaus.
Lluniau
Yn y llun yn clirio rhan o Afon Dyfrdwy mae gwirfoddolwyr o Glwb Rheoli
Gwlyptiroedd a Blodau Gwyllt Dyfrdwy, Karen Rippin y Warden Arfordirol a Steve
Hughes o waith Tata Colors yn Shotton