香港王中王最快开奖结果

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Y Gwasanaeth Maethun cefnogi Wythnos Fabwysiadu a Maethu LHDT

Published: 20/03/2015

Ymunodd Gwasanaeth Maethu Sir y Fflint 芒 Th卯m Maethu Wrecasm a Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru yn ddiweddar, i gynnal digwyddiad ym Mhrifysgol Glyndwr i annog mwy o bobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol i fod yn ofalwyr maeth neu rieni mabwysiadu. Cynhaliwyd y digwyddiad fel rhan o Wythnos Fabwysiadu a Maethu LHDT. Mae prinder mawr o fabwysiadwyr a gofalwyr maeth Ledled y DU. Mae angen pobl i fabwysiadu tua 4,000 o blant bob blwyddyn a rhaid dod o hyd i 8,000 o ofalwyr maeth ychwanegol. Mae鈥檙 ffigyrau鈥檔 awgrymu y gellid llenwi鈥檙 diffyg hwn pe bai ond dau y cant o bobl LHDT yn dod ymlaen i faethu neu fabwysiadu. Mae gan Sir y Fflint dri o ofalwyr maeth LHDT ac mae鈥檔 awyddus i annog mwy o gyplau LHDT neu ofalwyr sengl i ddod ymlaen. Meddai鈥檙 Cynghorydd Christine Jones, Aelod o鈥檙 Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint: 鈥淵n ein profiad ni, mae gan ofalwyr maeth a mabwysiadwyr LHDT yr union sgiliau yr ydym yn chwilio amdanynt. Ond yn bwysicach fyth, mae ganddynt y penderfyniad sy鈥檔 hanfodol i ofalu am y plant a鈥檙 bobl ifanc hyn sy鈥檔 agored i niwed. 鈥淩oeddem yn hynod falch fod aelodau o鈥檙 gymuned LHDT wedi dod i鈥檔 digwyddiad i glywed am y broses ac i siarad 芒 gofalwyr LHDT am eu profiadau. Edrychwn ymlaen at eu rhoi ar ben ffordd eu siwrnai fabwysiadu neu faethu.鈥 Dyma rai o sylwadau ymwelwyr a ddaeth i鈥檙 digwyddiad: 鈥淩oedd yn ddiddorol a mewnweledol iawn ac rydym wedi cael llawer i feddwl amdano.鈥 鈥淢ae wedi bod yn llawn gwybodaeth, cyfeillgar, personol a chalonogol鈥. Mae pobl ifanc sydd eisoes yn cael gofal maeth gan bobl LHDT hefyd wedi bod yn s么n am eu profiadau. Meddai un ohonynt: 鈥淢ae hi鈥檔 ddynes ddoniol a gofalgar sy鈥檔 gwneud i mi deimlo鈥檔 ddiogel. Rydw i鈥檔 lwcus iawn i gael byw gyda hi. Os ydych chi鈥檔 hoyw, lesbian, deurywiol neu drawsrywiol ac yn meddwl maethu, peidiwch 芒 gadael i unrhyw beth eich atal. Maen nhw wedi gwneud i mi deimlo fy mod yn perthyn yma ac rydw i fel un o鈥檙 teulu, sy鈥檔 wych achos mae angen i bawb deimlo鈥檔 ddiogel ac yn hapus.鈥 Meddai unigolyn ifanc arall mewn gofal maeth: 鈥淧an gefais wybod fy mod yn mynd i aros gyda chwpl hoyw roeddwn yn teimlo鈥檔 gyffrous a鈥檙 unig beth a oedd ar fy meddwl oedd beth fyddai fy ffrindiau yn ei feddwl neu yn ei ddweud ond maen nhw鈥檔 gefnogol iawn ac yn dod ymlaen 芒 nhw鈥檔 dda iawn. Ni ddylai pobl feirniadu cwpl hoyw, nhw yw鈥檙 bobl mwyaf anhygoel a gofalgar erioed. Ni fyddwn yn newid fy amser yno am y byd.鈥 Meddai Tor Docherty, Cyfarwyddwr New Family Social, sef rhwydwaith cymdeithasol a redir gan fabwysiadwyr a gofalwyr maeth LHDT i deuluoedd a darpar deuluoedd sy鈥檔 trefnu Wythnos Mabwysiadu a Maethu LHDT: 鈥淭ra bo mwy a mwy o bobl LHDT yn dewis mabwysiadu neu faethu, mae nifer yn dal i ofni na fyddant yn cael croeso gan yr asiantaethau. Mae pethau wedi symud ymlaen dros y chwe blynedd diwethaf ym maes mabwysiadu a maethu. Mae ein cymuned fawr o deuluoedd ledled y DU yn hynod o groesawgar a chefnogol. Mae鈥檔 amlwg i bawb pa mor dda mae ein plant yn dod ymlaen a pha mor bositif a boddhaol y gall y profiad fod i rieni鈥. Am fwy o wybodaeth am faethu a mabwysiadu edrychwch ar wefan Gwasanaeth Maethu Sir y Fflint www.flintshirefostering.org.uk neu www.northwalesadoption.gov.uk. Nodyn i Olygyddion Mae Cymdeithas Mabwysiadu a Maethu Prydain (BAAF) yn amcangyfrif bod angen cartref mabwysiadu ar 4,000 o blant ledled y DU bob blwyddyn. Mae鈥檙 Rhwydwaith Maethu鈥檔 amcangyfrif fod angen dros 8,000 o ofalwyr maeth ychwanegol ledled y DU. Trefnir Wythnos Mabwysiadu a Maethu LHDT gan New Family Social, sef rhwydwaith cymdeithasol a redir gan fabwysiadwyr a gofalwyr maeth LHDT ar gyfer teuluoedd a darpar deuluoedd. Llun Cynrychiolwyr o Wasanaeth Maethu Sir y Fflint, T卯m Maethu Wrecsam a Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru.