Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Sir y Fflint yn arwain y ffordd at gynorthwyo entrepreneuriaid
Published: 25/03/2015
Mae Rhwydwaith Entrepreneuriaeth Busnes Sir y Fflint am gynnal dathliad i nodi
llwyddiant ei ddau Glwb Menter yn Sir y Fflint a Wrecsam.
Sefydlwyd y Rhwydwaith ym mis Tachwedd 2012 gan Gymunedau鈥檔 Gyntaf a gwr busnes
o Sir y Fflint, Askar Sheibani, Prif Swyddog Gweithredol cwmni Comtek Network
Systems UK Ltd, ac mae鈥檔 cael ei reoli gan d卯m Cymunedau鈥檔 Gyntaf Dwyrain Sir y
Fflint. Mae鈥檙 Rhwydwaith yn cynnwys rhanddeiliaid o Gyngor Sir y Fflint,
Llywodraeth Cymru, cynrychiolwyr o fusnesau lleol a鈥檙 gymuned, sy鈥檔 dod at ei
gilydd i hyrwyddo entrepreneuriaeth.
Ers iddo gael ei sefydlu, mae鈥檙 Rhwydwaith wedi cynnal cyfres o ddigwyddiadau
鈥楧ragon鈥檚 Den鈥 ac mae dros 100 o bobl wedi elwa o鈥檙 rhaglen.
Cynhelir y digwyddiad Dragon鈥檚 Den nesaf ddydd Gwener 27 Mawrth, rhwng 1pm a
3pm yng Nghanolfan Adnoddau Cymunedol Hightown yn Wrecsam. Gwahoddir
entrepreneuriaid newydd i fynychu a cheisio gwerthu eu syniadau i arweinwyr
busnes a chael adborth gonest a chyfle i gael cymorth a mentora.
Meddai Askar Sheibani, cadeirydd fforwm Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy a
Phrif Swyddog Gweithredol a sefydlydd y cwmni trwsio a chymorth telathrebu,
Comtek:
鈥淢ae rhaglen Dragon鈥檚 Den Sir y Fflint wedi bod yn llwyddiant ysgubol ers iddo
gael ei lansio yn 2013. Rydym wedi cael ymholiadau o bob cwr o鈥檙 DU i ganfod
sut mae鈥檙 rhaglen yn gweithio a sut mae鈥檔 cael ei gydgysylltu gan d卯m
Cymunedau鈥檔 Gyntaf Sir y Fflint. Rydym hefyd wedi gweld nifer o
entrepreneuriaid sefydledig yn awyddus i gymryd rhan yn y Clybiau Menter i
ddarparu cyngor a chymorth parhaus i鈥檔 hentrepreneuriaid newydd. Yn wir, ni
fyddai鈥檙 Clybiau Menter wedi bod yn bosibl heb gymorth busnesau lleol, sy鈥檔
helpu鈥檔 wirfoddol ac sy鈥檔 un o brif gynhwysion llwyddiant y rhaglen. Heb eu
cymorth a鈥檜 mentora, ni fyddem yn cael ein hadnabod fel glasbrint ar gyfer
llwyddiant gan ranbarthau eraill yn y DU, ac rydym yn annog eraill i gydio yn
eu doniau lleol i yrru llwyddiant busnes ymlaen a helpu i gadw eu heconom茂au
lleol ar y wyneb.鈥
Meddai Dave Fildes o DFS4 Ltd sef un o鈥檙 mentoriaid:
鈥淢ae鈥檔 bwysig i mi roi rhywbeth yn 么l i gymuned gogledd Cymru. Rydw i鈥檔
mentora tri neu bedwar o bobl drwy鈥檙 Clwb Menter yn ogystal 芒 darparu sgyrsiau.
Rwyf wedi datblygu sawl busnes a thrawsnewid ambell un; fy mhrif sgiliau yw
gwerthiant, trefnu gwerthiant a hyfforddiant gwerthiant. Gwn sut beth yw
nosweithiau digwsg ac yn aml y cyfan sydd ei angen ar bobl yw rhywun i siarad 芒
nhw i ddod i鈥檞 penderfyniadau eu hunain.鈥
Mae Neil Davies wedi elwa o鈥檙 Rhwydwaith a鈥檙 Clwb Menter. Mae wedi sefydlu
cwmni o鈥檙 enw Active Adventure North Wales, sy鈥檔 darparu cyrsiau rheoli busnes
drwy weithgareddau awyr agored. Meddai:
鈥淢ae鈥檙 Rhwydwaith a鈥檙 Clwb Menter wedi bod o fudd enfawr i mi. Mae鈥檙
darlithoedd am ddim ar ddydd Gwener wedi bod yn wych, yn arbennig ar werthiant,
marchnata a chyfryngau cymdeithasol. Mae wedi bod yn siwrnai arbennig ac mae鈥檔
braf cael rhywun i droi atyn nhw am gyngor.鈥
Mae Thomas Kirkpatrick o Seland Newydd yn berchen ar fythynnod hunanarlwyo
moethus yn nyffryn Clwyd - sef Bythynnod Cae Gwyn:
鈥淐yrhaeddais Sir y Fflint ddwy flynedd yn 么l gyda fy ngwraig sy鈥檔 wreiddiol o鈥檙
ardal hon. Dechreuom chwilio am eiddo gwledig a daethom o hyd i adeilad
Sioraidd a oedd wedi鈥檌 adael ers blynyddoedd - gydag adeiladau allanol hyfryd a
bwthyn. Rwyf wedi bod yn aelod o鈥檙 clwb menter ers blwyddyn ac mae wedi bod yn
brofiad ysbrydoledig gweld nifer yr entrepreneuriaid ifanc - mae pobl yn mynd
amdani ac yn rhoi cynnig arni. Mae wedi bod yn ysbrydoledig dros ben!鈥
Meddai鈥檙 Cynghorydd Derek Butler, Aelod o鈥檙 Cabinet dros Ddatblygiad Economaidd
yng Nghyngor Sir y Fflint:
鈥淯nwaith eto mae Sir y Fflint ar flaen y gad ym maes arloesed gyda鈥檙 Rhwydwaith
hwn sy鈥檔 unigryw - nid oes unrhyw beth tebyg yn cael ei ddarparu yng Nghymru, y
DU nac Ewrop. Diolchaf i Gymunedau鈥檔 Gyntaf ac i Askar Sheibani am arwain y
fenter ardderchog hon.鈥
I gymryd rhan yn y digwyddiad Dragon鈥檚 Den nesaf ddydd Gwener 27 Mawrth o 1pm
tan 3pm yng Nghanolfan Adnoddau Cymunedol Hightown yn Wrecsam, cysylltwch 芒
Lynn Williams drwy e-bost: lynn.williams@cambria.ac.uk
Os na allwch fynychu digwyddiad Wrecsam, cynhelir Dragon鈥檚 Den Sir y Fflint
ddydd Gwener 15 Mai yng Ngholeg Cambria, Campws Glannau Dyfrdwy o 10am tan 2pm.
Am fwy o wybodaeth am y digwyddiad yn Sir y Fflint cysylltwch 芒 Beverly Moseley
01244 846090.
Bydd y dathliad i nodi llwyddiant Clybiau Menter Sir y Fflint a Wrecsam ac i
ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan a hyrwyddo ei achos - ei aelodau,
Dreigiau, sefydliadau a chefnogwyr - ddydd Gwener 19 Mehefin yng Nghampws
Glannau Dyfrdwy Coleg Cambria.
Lluniau
4259: yn y llun mae aelodau o Rwydwaith Entrepreneuriaeth Busnes Sir y Fflint.
4272a: o鈥檙 chwith i鈥檙 dde mae Beverly Moseley (Cymunedau鈥檔 Gyntaf), Neil
Davies, Thomas Kirkpatrick, Askar Sheibani a鈥檙 Cynghorydd Derek Butler.