Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Gweinidog yn ymweld â鈥檙 Ganolfan Dechrau鈥檔 Deg newydd
Published: 20/03/2015
Mae Lesley Griffiths AC, y Gweinidog dros Gymunedau a Threchu Thlodi, wedi
ymweld 芒r ganolfan Dechraun Deg newydd yn Ysgol Bryn Deva yng Nghei Connah
heddiw (dydd Iau 19 Mawrth), i weld y gwasanaethau gofal plant gwych a鈥檙
cyfleusterau y maen eu cynnig.
Agorwyd y ganolfan y llynedd, diolch i grant cyfalaf gan Lywodraeth Cymru o
拢825,000.
Mae cyfleusterau Dechraun Deg yn cynnig gofal plant am ddim o ansawdd da i
rieni cymwys 芒 phlant syn ddwy neu dair oed, cefnogaeth rhianta, gwasanaeth
ymwelydd iechyd gwell a chymorth gyda datblygiad iaith gynnar. Maent yn helpu
teuluoedd i ofalu am iechyd a lles eu plant.
Cyn y ddarpariaeth newydd, roedd gwasanaethau Dechraun Deg yng Nghei Connah yn
gweithredu o nifer o leoliadau yn y dref. Darparwyd gofal plant yn Ysgol Bryn
Deva ac roedd y galw am leoedd yn aml yn fwy na鈥檙 lleoedd oedd ar gael. Gan
weithio mewn partneriaeth 芒r ysgol a Chylch Chwarae Jig-so, maer ganolfan
bwrpasol yn darparu ystod lawn o wasanaethau Dechraun Deg o dan yr un to. Mae
hyn yn cynnwys rhaglenni rhianta, sesiynau iechyd i blant, grwp iaith gynnar a
chyfleusterau cr猫che. Mae 48 o blant nawr yn gallu manteisio ar eu hawl gofal
plant Dechraun Deg yn y ganolfan, syn golygu y gellir diwallu ceisiadau am
leoedd gofal plant yn llawn nawr.
Mae gwasanaethau Dechraun Deg yn yr ysgol hefyd wedi cael eu hehangu i gynnwys
cyrsiau tylino babanod, datblygiad iaith gynnar a rhaglenni rhianta, syn cael
eu darparu i rieni syn gallu dod 芒u plant gyda nhw i gael gofal gan staff
cymwys, yn y cr猫che ar y safle.
Dywedodd Lesley Griffiths, AC:
鈥淢ae wedi bod yn braf gweld y cyfleusterau rhagorol yma yng Nghei Connah ar
gwahaniaeth mae buddsoddiad Llywodraeth Cymru wedi鈥檌 wneud. Mae Dechraun Deg
yn sicrhau bod plant ledled Cymru yn cael y dechrau gorau posibl mewn bywyd
wrth gynnig cefnogaeth a chyngor gwerthfawr i rieni hefyd. Rwyf wedi gweld hyn
yma ym Mryn Deva heddiw, a hoffwn longyfarch pawb sydd wedi chwarae rhan yn
sefydlur cyfleuster newydd yma.鈥
Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Aaron Shotton, a
gyfarchodd y Gweinidog:
鈥淢ae wedi bod yn bleser croesawur Gweinidog i鈥檔 Canolfan Dechraun Deg wych
yng Nghei Connah. Rwyn hynod falch or cyfleuster newydd hwn syn darparu
lleoliad gwych ar gyfer darpariaeth gofal plant am ddim a chefnogaeth i rieni
lleol sydd 芒鈥檙 hawl i gael Gwasanaethau Dechrau鈥檔 Deg, gan ein t卯m ymroddedig
iawn. Ni fyddai wedi bod yn bosibl ehangu heb arian o raglen grant Cyfalaf
Strategol Dechraun Deg Llywodraeth Cymru, a chefnogaeth Ysgol Bryn Deva, felly
hoffwn estyn ein diolch ir Gweinidog ac i bennaeth Bryn Deva, Tamasine
Croston.鈥
Ychwanegodd Pennaeth Ysgol Bryn Deva, Tamasine Croston:
鈥淩ydym yn ddiolchgar iawn i Lywodraeth Cymru ac i Ddechraun Deg i gael y
cyfleuster gwych yma yng Nghei Connah; mae鈥檙 adeilad, gydai gyfleusterau a鈥檌
amgylchedd o鈥檙 radd flaenaf, yn lle eithriadol i blant a theuluoedd ddysgu. Hyd
yn oed yn yr amser byr y mae wedi bod yn agored, mae eisoes yn cael effaith
gadarnhaol iawn ar yr ardal hon, ac maer ddarpariaeth ar gyfer plant a
dosbarthiadau i rieni 芒 nifer dda鈥檔 bresennol ynddynt. Rydym yn edrych ymlaen
at y misoedd i ddod a gweld yr effaith yn tyfu!鈥