Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Archifdy Sir y Fflint yn ennill achrediad cenedlaethol
Published: 26/03/2015
Archifdy Sir y Fflint yw鈥檙 gwasanaeth archifau cyntaf yng ngogledd Cymru i
ennill Achrediad Gwasanaeth Archifau.
Mae Gwasanaeth Archifau Achrededig yn sicrhau fod ein treftadaeth archifol yn
cael ei chasglu, ei dargadw a鈥檌 bod yn hygyrch yn y tymor hir. Mae鈥檙 achrediad
yn safon ansawdd newydd yn y DU sy鈥檔 cydnabod perfformiad da ym mhob maes o
ddarpariaeth gwasanaeth archifol. Mae cyflawni statws achrededig yn dangos fod
Archifdy Sir y Fflint wedi cyrraedd safonau cenedlaethol a ddiffinwyd yn glir
yn ymwneud 芒 rheoli a darparu adnoddau; gofalu am ei gasgliadau unigryw a鈥檙 hyn
sydd gan y gwasanaeth i鈥檞 gynnig i ystod gyfan o ddefnyddwyr.
Mae鈥檙 Archifdy wedi darparu gwasanaeth archifau i Sir y Fflint ers y 1950au ac
nid yn unig y mae鈥檔 cadw casgliadau鈥檙 Cyngor Sir ond hefyd cofnodion busnesau
lleol, eglwysi, ysgolion, ystadau a llawer mwy. Roedd yn un o鈥檙 archifdai
cynharaf i gael ei sefydlu yng Nghymru ac mae wedi bod yn nodedig erioed am
ansawdd ei wasanaeth.
Meddai鈥檙 Cynghorydd Chris Bithell, Aelod o鈥檙 Cabinet dros Addysg:
鈥淩ydym yn falch dros ben mai ein gwasanaeth archifau ni yw鈥檙 cyntaf yng
ngogledd Cymru i ennill statws achrededig. Mewn cyfnod o newid mawr mewn
llywodraeth leol rydym yn falch iawn o allu sefyll ar ein traed a chael ein
cyfrif am gynnal ansawdd ac ymrwymiad i鈥檙 gwasanaeth a gynigwn i Sir y Fflint
ac i genedlaethau鈥檙 dyfodol鈥.
Nododd aseswyr yr Achrediad Gwasanaeth Archifau fod perfformiad Archifdy Sir y
fflint yn dangos darpariaeth gref ym mhob maes gwasanaeth. Canmolwyd yn
arbennig: ymrwymiad y gwasanaeth i gyflawni a dargadw鈥檙 Achrediad yn y tymor
hir; y cynlluniau trylwyr a鈥檙 defnydd effeithiol a wneir o wirfoddolwyr i fwydo
i mewn i ddatblygiad y gwasanaeth a chefndir nodedig y gwasanaeth mewn
cadwraeth, cynorthwyo hyfforddiant a datblygiad proffesiynol ehangach a gwneud
gwelliannau rhanbarthol.
Ceir manylion yr Archifdy ar wefan y Cyngor sef www.siryfflint.gov.uk/archifau
Nodiadau i olygyddion:
Am fwy o wybodaeth, ffoniwch Claire Harrington, Prif Archifydd, 01244 532414
neu anfonwch e-bost at Claire.Harrington@flintshire.gov.uk
Am fwy o wybodaeth am Achrediad y Gwasanaeth Archifau edrychwch ar wefan:
http://www.nationalarchives.gov.uk/archives-sector/archive-service-accreditation
.htm