Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Prentisiaid yn dathlu llwyddiant ac yn annog pobl ifanc i ymuno mewn cynllun hyfforddi
Published: 13/05/2015
Mae nifer o staff Cyngor Sir y Fflint a gwblhaodd eu rhaglen hyfforddi wedi
cael eu llongyfarch mewn seremoni wobrwyo鈥檔 ddiweddar yng Ngholeg Cambria.
Roedd pedwar yn y rownd derfynol, sef Hannah Bibby, Jamielee Thomas, Ciaran
Allman a Jamie Featherstone. Cyhoeddwyd mai Hannah Bibby oedd yr enillydd yng
nghategori Prentis Lefel Uwch y Flwyddyn, a Jamielee Thomas enillodd gwobr
Prentis y Flwyddyn.
Bob blwyddyn, caiff nifer o brentisiaid eu recriwtio i weithio mewn adrannau
drwy鈥檙 Cyngor, ac mae cyfleoedd ym maes gweinyddu, TGCh, cyfrifyddu, diogelu鈥檙
amgylchedd, peirianneg, arlwyo, garddwriaeth, harddwch, rheoli cefn gwlad, a
disgyblaethau eraill. Fel arfer, bydd y prentisiaid yn treulio un diwrnod yr
wythnos yng Ngholeg Cambria 聽am ddwy neu dair blynedd a ch芒nt eu hyfforddi a鈥檜
hasesu yn y gweithle.
Ar hyn o bryd, mae Sir y Fflint yn cynnig lleoliad i 30 o brentisiaid mewn
amrywiaeth o swyddi yn y sefydliad.
Mae鈥檙 cynllun prentisiaid yn cynnig gwahanol fathau o hyfforddiant gan gynnwys
prentisiaeth i bobl ifanc sy鈥檔 gadael yr ysgol neu sy鈥檔 dychwelyd i鈥檙 byd
gwaith ac sydd 芒 5 TGAU A*-C gan gynnwys Mathemateg a Saesneg; prentisiaid
lefel uwch sy鈥檔 ystyried mynd i鈥檙 brifysgol neu i鈥檙 gweithle a graddedigion
sy鈥檔 chwilio am waith ar 么l gadael y brifysgol i ennill cymwysterau
proffesiynol.
Dywedodd Colin Everett, Prif Weithredwr Cyngor Sir y Fflint:
鈥淗offwn longyfarch ein prentisiad am gwblhau eu cyrsiau. Mae cyfran uchel iawn
yn llwyddo, ac mae 96% o鈥檔 prentisiaid yn cael swydd naill ai gyda鈥檙 Cyngor neu
gyda sefydliad arall, ac mae pedwar y cant yn symud ymlaen i鈥檙 brifysgol neu鈥檔
cael hyfforddiant proffesiynol. Mae鈥檔 gyfle gwych i ennill cymhwyster
cydnabyddedig a chael hyfforddiant a phrofiad ymarferol yn y gwaith yr un pryd.鈥
Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd y Cyngor:
鈥淵ma yng Nghyngor Sir y Fflint, rydym yn falch iawn o鈥檔 Rhaglen i Brentisiaid,
sy鈥檔 dangos ein hymrwymiad i hyfforddi a helpu pobl o bob oed i fanteisio ar
gyfleoedd gwaith. Mae Cynghorau cyfagos a darparwyr Addysg Bellach yn cydnabod
bod ein partneriaeth 芒 Choleg Cumbria yn enghraifft o arfer gorau. Byddwn yn
annog unrhyw un sydd 芒 diddordeb聽 yn y rhaglen i edrych ar ein gwefan
www.trainees-flintshire.co.uk i ddysgu rhagor am y lleoliadau sydd ar gael. 鈥
Ychwanegodd Pennaeth Coleg Cambria, David Jones, a gyflwynodd y tystysgrifau:
Mae鈥檔 amlwg bod Cyngor Sir y Fflint yn arwain y sector yn ei ymrwymiad i
brentisiaid a phobl ifanc - mae鈥檙 dull hwn o weithredu鈥檔 cyfateb i鈥檙 arfer
gorau bosibl yn y sector preifat. Rydym yn falch iawn o weithio mewn
partneriaeth 芒 nhw. 鈥溌
Delweddau
1885: O鈥檙 chwith i鈥檙 dde: Colin Everett, Prif Weithredwr; Jamie
Featherstone, Jamielee Thomas, Hannah Bibby, Ciaran Allman; Arweinydd y Cyngor,
y Cynghorydd Aaron Shotton.
1908: Y Prif Weithredwr Colin Everett; Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Aaron
Shotton a Phennaeth Coleg Cambria, David Jones gyda鈥檙 prentisiaid.