Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Eisiau dechrau eich busnes eich hun? Gweithdai Entrepreneur yn Queensferry
Published: 21/05/2015
Mae entrepreneuriaid ifanc yn cael eu gwahodd i fynychu tri digwyddiad
entrepreneur
cyffrous ym mis Mai a mis Mehefin i鈥檞 helpu nhw i gyrraedd eu nodau a dechrau
eu busnes eu hunain.
Ddydd Gwener 29 Mai a dydd Gwener 12 ac 19 Mehefin, mi fydd yna gyfres o
weithdai
dilynol ar Gampws Cymunedol John Summers yn Queensferry, o 10am tan 12pm. Maer
gweithdai hyn wedi eu trefnu gan Gymunedau yn Gyntaf ac maent yn rhad ac am
ddim.
Dywedodd y Cynghorydd Derek Butler, Aelod Cabinet Datblygu Economaidd:
鈥淢ae Cymunedau yn Gyntaf yn gweithio鈥檔 caled i ddarparu cefnogaeth ac wedi
ymrwymo i helpu pobl leol sydd eisiau dechrau busnes.
鈥淢aer gweithdai ymarferol wedi eu cynllunio ar gyfer pobl ifanc 16-24 oed, ond
mae croeso i bawb eu mynychu. Mae arnom ni eisiau clywed gan unrhyw un sydd 芒
syniad, felly dewch draw i fanteisio ar y cymorth sydd ar gael. Drwy gyfres o
weithgareddau, bydd y gweithdai hyn yn galluogi mynychwyr i ddatblygu a
mireinio eu syniadau busnes ac i fagu hyder.鈥
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch 芒 Beverly Moseley, Cymunedau yn Gyntaf, ar
01244
846090 neu beverly.moseley@flintshire.gov.uk.