Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Lliw yn y Llyfrgell
Llyfrgell yr Wyddgrug; Arddangosfa Wydr Sylvia Davies
Published: 21/05/2015
Mae鈥檙 artist gwydr medrus o Sir y Fflint, Sylvia Davies, ar hyn o bryd yn
arddangos ei darnau gwydr trawiadol yn Llyfrgell yr Wyddgrug.
Dyma ran o gyfres o arddangosfeydd Lliw yn y Llyfrgell sydd 芒r nod o gefnogi
artistiaid a chrefftwyr lleol, rhai ohonynt erioed wedi arddangos eu gwaith or
blaen, trwy roi llwyfan iddynt arddangos eu gwaith ir cyhoedd.
Trwy gydol y flwyddyn, bydd y rhaglen arddangosfeydd yn Llyfrgelloedd Sir y
Fflint
yn cynnwys paentiadau gan Angie Hoopert, Emma-Jayne Holmes a Clayton
Langford, lluniau gan Scott Bongo a ffotograffiaeth gan Ceridwen Barkley.
Meddai Sylvia Davies am ei gwaith:
鈥淩ydw i鈥檔 gweithio fel crefftwr gwydr ac wedi bod yn ddigon ffodus i ddysgu am
y
gelfyddyd hon gan rai or meistri lleol. Cefais fy mentora gan yr artist gwydr
cyfoes a鈥檙 dylunydd o fri Jan Singleton o Pandy Mill ac mi ddysgais i sut i
dorri gwydr, trin
copr a sodro darnau at ei gilydd. Bu i Ian Hartless, sy鈥檔 rhedeg busnes gwydr
lliw
ac yn addysgu mewn coleg lleol yn ogystal 芒 helpu i adfer Cadeirlan
Anglicanaidd yn Lerpwl, ddangos i mi sut i wneud ffenestri plwm.
鈥淵n 2010 mynychais gwrs ffiwsio a gwasgu gwydr wedi ei redeg gan Jenny Barker o
gwmni Melt Designs yn Lerpwl sydd hefyd yn Bennaeth Dylunio Gwydr yn Athrofa
Gogledd-Ddwyrain Cymru. Yn y cwrs bu i mi ddysgu technegau a phrosesau amrywiol
a chyffrous gweithio gyda gwydr poeth. Mae pob darn o waith yn unigryw ac wedi
ei wneud 芒 llaw ac yn cael ei roi yn yr odyn tanio (sawl gwaith), neu fel arall
n cael ei loywi neu ei sodro gyda phlwm.
鈥淩ydw i鈥檔 hoffi gwneud eitemau sydd 芒 rhywfaint o ddefnydd ymarferol fel
powlenni ffrwythau a phlatiau enw lliwgar ar gyfer drysau ystafelloedd gwely ac
yn y blaen, ond rydw i hefyd yn mwynhau gwneud rhywbeth a all greu golau a
symudiadau a gweld effaith anhygoel golau haul drwy wydr lliw.鈥
Bydd yr arddangosfa iw gweld yn y cypyrddau crefft yn Llyfrgell yr Wyddgrug.
Dywedodd y Cynghorydd Chris Bithell, Aelod Cabinet Addysg:
鈥淩ydw i鈥檔 falch bod t卯m Diwylliant a Digwyddiadau Celf Cyngor Sir y Fflint a鈥檔
gwasanaeth llyfrgelloedd yn parhau i gefnogi unigolion medrus lleol 鈥 gan
arddangos eu gwaith a鈥檜 cefnogi fel busnesau.
鈥淥s hoffai unrhyw wneuthurwr, artist neu grefftwr arddangos ei waith yn y
cypyrddau crefft yn Llyfrgell yr Wyddgrug, fe ddylen nhw ffonio鈥檙 dderbynfa neu
e-bostio gwenno.e.jones@flintshire.gov.uk gan atodi tri llun och gwaith a
datganiad byr am eich gwaith celf neu鈥檆h crefft.