香港王中王最快开奖结果

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Diwrnod Canoloesol y 鈥楳agna Carta鈥

Published: 27/05/2015

Mae Archifdy Sir y Fflint ym Mhenarl芒g yn cynnal Diwrnod Canoloesol y Magna Carta ddydd Sul 31 Mai rhwng 11am a 4pm. Bydd Cymdeithas Ganoloesol Samhain yn ail-greu bywyd yn ystod y 14eg ganrif a bydd ymwelwyr yn gallu chwarae gemau canoloesol, rhoi cynnig ar nyddu gwl芒n ac ysgrifennu mewn ysgrifen caligraffi. Mi fydd yna hefyd sioe bypedau, saethyddiaeth a drama gomedi, The Magnificent Charter. Dywedodd yr Uwch Archifydd, Steven Davies, bod Cymdeithas Ganoloesol Samhain yn trefnu鈥檙 mathau yma o ddigwyddiadau yn rheolaidd a鈥檜 bod bob amser yn llawer o hwyl. Mae鈥檙 ddrama yn nodi 800 mlynedd ers y Magna Carta ond mae hi wedi ei chyfansoddi mewn ffordd ddoniol a difyr iawn. Byddwn yn argymell y digwyddiad yma i unrhyw un syn chwilio am ddiwrnod allan gwych. Dywedodd y Cyng. Chris Bithell, Aelod Cabinet Addysg: 鈥淩ydw i鈥檔 falch bod yr Archifdy yn nodi鈥檙 diwrnod pwysig hwn yn hanes democratiaeth mewn ffordd a fydd yn apelio at blant. Mae digon o weithgareddau cyffrous ar gael yn ogystal ag arddangosiadau meddygaeth ac arfwisgoedd canoloesol. Mae hi鈥檔 argoeli i fod yn ddigwyddiad llawn hwyl ir teulu cyfan ac rydw i鈥檔 siwr y bydd yn ddiwrnod gwych.鈥 Maer digwyddiad yn rhad ac am ddim (拢1 am saethyddiaeth).