Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Diwrnod Hwyl Bywyd Gwyllt yr Ardd; Parc Gwepra, Dydd Sul 14 Mehefin
Published: 08/06/2015
Cynhelir diwrnod hwyl bywyd gwyllt yr ardd ym Mharc Gwepra yng Nghei Connah
ddydd Sul 14 Mehefin, fel rhan o Wythnos Bioamrywiaeth Cymru 2015.
Bydd 4 gweithgaredd mewn dwy sesiwn ar y diwrnod 鈥 cynhelir sesiwn y bore o
10.30 tan 12.30, a chynhelir sesiwn y prynhawn o 1.30pm tan 3.30pm. Y
gweithgareddau (a fydd yn cael eu cynnal yn sesiynau鈥檙 bore a鈥檙 prynhawn) fydd
gweithdy creu printiau, sesiwn blannu yng ngardd yr Hen Neuadd, gweithdy
adeiladu blwch pryfed ac arolygon pridd fydd yn cael eu cynnal gan y prosiect
OPAL*.
Gofynnwn i chi gyfarfod yng Nghanolfan Ymwelwyr Parc Gwepra ar gyfer yr holl
weithgareddau.
Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd:
鈥淐ynhelir Wythnos Bioamrywiaeth Cymru o鈥檙 6 i鈥檙 14 Mehefin ar thema eleni yw
garddio bywyd gwyllt. Gyda鈥檙 gweithgareddau hwyl hyn, ein nod yw codi
ymwybyddiaeth o bwysigrwydd gerddi fel cynefin ac arddangos rhai o鈥檙 pethau
syml y gall teuluoedd eu gwneud yn eu gerddi hwy i annog bywyd gwyllt.
鈥淐reu printiau yw鈥檙 unig weithgaredd sydd angen archebu lle ymlaen llaw, naill
ai trwy ffonio Canolfan Ymwelwyr Parc Gwepra ar 01352 703900, neu trwy anfon
e-bost at countryside@flintshire.gov.uk, a dyma鈥檙 manylion cyswllt y dylid eu
defnyddio os ydych yn dymuno rhagor o wybodaeth am unrhyw un o鈥檙
gweithgareddau.鈥
Nodyn i Olygyddion:
*Gellir cael rhagor o wybodaeth am y prosiect OPAL ar
http://opalexplorenature.org