香港王中王最快开奖结果

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cabinet considers its annual progress

Published: 12/06/2015

Yn ei gyfarfod ddydd Mawrth (16 Mehefin) bydd y Cabinet yn trafod ei gynnydd a鈥檙 hyn a gyflawnwyd yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf. Bydd aelodau鈥檙 Cabinet yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wnaed o safbwynt Cynllun Gwella鈥檙 Cyngor ar ddiwedd y flwyddyn ariannol. Bydd hefyd yn cael adroddiad diwedd blwyddyn ar bartneriaethau strategol y Cyngor, gan gynnwys Bwrdd Gwasanaethau Lleol Sir y Fflint. Dyma鈥檙 rai o鈥檙 prif bwyntiau: - bwrw ymlaen 芒 gwaith datblygu tai a gwaith adfywio ar hyd a lled y sir drwy鈥檙 Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol. Yn y pen draw, caiff 500 o dai fforddiadwy newydd eu codi yn ystod y pum mlynedd nesaf; - cymeradwyo trydydd cartref Gofal Ychwanegol y Sir a hynny yn y Fflint; - y Cyngor fydd yr awdurdod cyntaf yn y Gogledd i gael achrediaeth Rhuban Gwyn am ei waith ym maes cam-drin domestig ; - llwyddiant y Gronfa Gofal Canolraddol i helpu gwasanaethau Gofal Canolraddol newydd neu ychwanegol; - ehangu darpariaeth Dechrau鈥檔 Deg yn y sir; - dros 拢6m gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y Rhaglen Lleoedd Llewyrchus a Llawn Addewid. Fe鈥檌 gwariwyd yng Nglannau Dyfrdwy lle mae gwaith ar y gweill i wella鈥檙 ardal ddifreintiedig hon yn ogystal 芒鈥檙 sir yn ei chyfanrwydd; - creu 1,130 o swyddi newydd yn y sir, gan gynnwys 1,012 yn Ardal Fenter Glannau Dyfrdwy; - 99.6% o bobl ifanc 16 oed mewn addysg, gwaith neu hyfforddiant ar ddiwedd y flwyddyn; - yn ystod y flwyddyn ariannol diwethaf, cafodd 1,622 o bobl Sir y Fflint gyngor a chymorth gan y T卯m Hawliau Lles. Yn sgil yr ymyriadau llwyddiannus sicrhawyd budd-daliadau lles a thaliadau credyd treth gwerth 拢3.1 miliwn at ei gilydd. - adroddiad blynyddol da gan Swyddfa Archwilio Cymru yn dangos bod y Cyngor wedi gwneud cynnydd cyffredinol da wrth roi ei flaenoriaethau gwell ar waith, a pherfformiad cryf gan nifer o feysydd gwasanaeth. Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd y Cyngor: 鈥淒rwy ein Cynllun Gwella, rydym yn blaenoriaehu meysydd a gwasanaethau sy鈥檔 bwysig i鈥檔 cymunedau. Caiff ei fonitro drwy gydol y flwyddyn i asesu a ydym yn mynd i gyrraedd ein targedau. Er gwaethaf y problemau ariannol anodd rydym yn eu hwynebu, mae鈥檙 Cyngor yn parhau i fod yn sefydliad sy鈥檔 perfformio鈥檔 dda ac rydym wedi cyflawni llawer y gallwn fod yn falch iawn ohonynt.鈥 Dywedodd Colin Everett, Prif Weithredwr y Cyngor: Mae鈥檙 adroddiadau hyn yn dangos bod Sir y Fflint yn Gyngor cost-effeithiol sy鈥檔 gwerthfawrogi ei bartneriaethau, ac sy鈥檔 parhau i wella o鈥檙 naill flwyddyn i鈥檙 llall. Mae鈥檙 Cyngor yn perfformio鈥檔 gryf yn 么l ei flaenoriaethau, yn enwedig ym maes addysg, yr economi leol a thai.鈥