香港王中王最快开奖结果

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Costau gwresogi cymunol

Published: 11/06/2015

Mae tenantiaid rhai o dai鈥檙 Cyngor ar fin derbyn ad-daliad am eu costau gwresogi. Mae naw o gynlluniau gwresogi cymunol ledled Sir y Fflint lle mae tenantiaid yn elwa o gyfradd contract masnachol a redir gan y Cyngor ac a gytunir 12 mis o flaen llaw. Ar y dechrau mae鈥檙 Cyngor yn talu am y tanwydd ac yna鈥檔 casglu鈥檙 arian gan y tenantiaid ar ben eu rhent wythnosol, gyda鈥檙 nod o adennill y costau erbyn diwedd pob blwyddyn ariannol. Mae costau tanwydd yn seiliedig ar y swm a ddefnyddiwyd yn y flwyddyn flaenorol. Yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf, gan fod prisiau ynni wedi bod yn is na鈥檙 disgwyl, adferwyd costau gwresogi dros ben mewn rhai ardaloedd. Yn Bolingbroke a Richard Heights yn y Fflint, bydd pob tenant sy鈥檔 rhan o鈥檙 cynllun gwresogi cymunol yn derbyn ad-daliad o 拢55.97. Ar gyfer y flwyddyn ariannol yma (2015/16), mae鈥檙 Cyngor wedi medru prynu nwy am bris is nag y llynedd. Yng nghyfarfod y Cabinet ddydd Mawrth 16 Mehefin, gofynnir i Aelodau gymeradwyo gostyngiad yn y costau gwresogi wythnosol. Gofynnir iddynt hefyd gymeradwyo ad-daliadau naill ai ar ffurf credyd rhent os oes gan y tenant 么l-ddyledion rhent neu drwy siec os yw鈥檙 cyfrif rhent yn gyfredol. Meddai鈥檙 Cynghorydd Helen Brown, Aelod o鈥檙 Cabinet dros Dai: 鈥淩wy鈥檔 eithriadol o falch ein bod yn gallu cynnig ad-daliad i rai o鈥檔 tenantiaid ar eu biliau ynni a鈥檔 bod yn gallu cynnig gostyngiad yn ein taliadau gwresogi ar draws pob un o鈥檙 naw cynllun gwresogi cymunol y flwyddyn ariannol hon. Roedd costau tanwydd eisoes yn werth am arian ac mae鈥檙 taliadau newydd hyn yn golygu y bydd rhai o鈥檔 tenantiaid yn talu cyn lleied 芒 拢6.12 yr wythnos i wresogi eu cartrefi.鈥