香港王中王最快开奖结果

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Arddangosfa Gelf Criw Celf

Published: 26/06/2015

Mae myfyrwyr sy鈥檔 cymryd rhan ym mhrosiect Criw Celf Sir y Fflint ar gyfer artistiaid ifanc galluog a dawnus wedi cael arddangos eu gwaith yn broffesiynol ym Melin Gelf a Chrefft Treffynnon yr wythnos hon. Mae rhai or cyfranogwyr wedi bod gydar Criw Celf am bedair blynedd. Ceir ail grwp sydd wedi dechrau eleni, gafodd ei recriwtio o flynyddoedd 5 a 6 yn ysgolion Sir y Fflint. Trydydd grwp oedd yn arddangos oedd plant iau yn cymryd rhan mewn Celf Criw Bach sydd wedi bod yn gweithio gydar artist, Honor Pedican ar ddydd Sadwrn yn Llyfrgelloedd Sir y Fflint. Mae鈥檙 myfyrwyr yn y grwpiau Criw Celf wedi dysgu technegau ac wediu cyflwyno i gyfryngau ychwanegol at yr hyn a g芒nt fel arfer yn yr ysgol, a dangosodd y gwaith dilynol dalent a ddatblygwyd gan ein hartistiaid ifanc yn Sir y Fflint. Mae pob grwp Criw Celf wedi gweithio gyda thri artist proffesiynol am ddau ddiwrnod llawn gyda phob un. Roedd y grwp hyn yn cael eu tiwtora gan yr Artist Gweledol Ticky Lowe, Artist Gweledol ar Arlunydd Catrin Webster, a鈥檙 Gwneuthurwr Basgedi Mandy Coates. Dros gyfnod o bedair blynedd, maent wedi gweithio gyda 12 o artistiaid proffesiynol. Roedd y grwp Criw Celf iau yn eu blwyddyn gyntaf yn gweithio gyda鈥檙 Artist Gwydr Rhian Haf, Artist Tecstilau Cefyn Burgess a鈥檙 Artist Amgylcheddol, Tim Pugh. Roedd y cyfranogwyr Criw Celf yn cynhyrchu gwaith o ansawdd uchel ac o safon y gellid ei arddangos mewn unrhyw oriel gelf broffesiynol. Dangosodd y grwp Criw Celf Bach addewid o beth fydd y plant ieuengaf yn gallu ei gynhyrchu os byddant yn parhau gydar rhaglen Criw Celf. Dechreuodd y prosiect Criw Celf yng Ngwynedd yn 2007 ac mae wedi bod yn bartneriaeth rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Chyngor Gwynedd. Ers 2012, mae Cyngor M么n, Cyngor Sir Ddinbych, Cy ngor- Sir y Fflint a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi datblygu鈥檙 prosiect yn eu rhanbarthau sy鈥檔 golygu mai hwn yw鈥檙 prosiect celf gweledol cyntaf ledled Gogledd Cymru sydd wedi鈥檌 anelu at artistiaid ifanc mwy galluog a thalentog. Ariennir Criw Celf yn Sir y Fflint gan Gyngor Celfyddydau Cymru ar Adain Celfyddydau, Diwylliant a Digwyddiadau, Cyngor Sir y Fflint sydd hefyd wedi datblygu鈥檙 prosiect ar gyfer y sir. Llun Chwith i鈥檙 dde: Beth Ditson, Rhian Haf, Is-Gadeirydd Peter Curtis, Mandy Coates, a Honor Pedican. Y plant o鈥檙 chwith i鈥檙 dde yw: Olivia Ashbrook, Ysgol Uwchradd y Fflint, Liam Martin, Ysgol Gronant, Callum Martin, Ysgol Uwchradd Prestatyn, Elias Kardzin, Ysgol Gymraeg Gwenffrwd.