香港王中王最快开奖结果

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwobr genedlaethol i gydnabod Gwasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint

Published: 29/06/2015

Mae Gwasanaethau Cymdeithasol, Blynyddoedd Cynnar a Chymorth i Deuluoedd Cyngor Sir y Fflint wedi derbyn gwobr genedlaethol. Enillodd gwasanaeth blynyddoedd cynnar a chymorth i deuluoedd y Cyngor wobr gan Gyngor Gofal Cymru yn ddiweddar o dan y categori 鈥楪well canlyniadau drwy gydweithio鈥. Roedd yn cydnabod y partneriaethau cryf sydd wedi鈥檜 datblygu rhwng nifer o wasanaethau a sefydliadau yn Sir y Fflint, i sicrhau fod magu plant rhagweithiol a phositif yn cael ei hyrwyddo, a bod canlyniadau negyddol i blant a phobl ifanc yn cael eu hatal. Dywedodd y beirniaid fod cryfder y berthynas rhwng yr ysgolion, y rhieni a鈥檙 Gwasanaethau Cymdeithasol, y cysylltiadau 芒 Phrifysgol Glyndwr yn ogystal 芒鈥檙 dealltwriaeth go iawn o agwedd holistaidd tuag at blant gan gynyddu eu dyheadau a鈥檜 cyflawniad, wedi creu argraff fawr arnynt. Derbyniwyd y Wobr gan Ysgol Merllyn, Bagillt ar ran y Gwasanaethau Addysg ac Ieuenctid, i gydnabod y rhaglen Teuluoedd ac Ysgolion Gyda鈥檌 Gilydd. Meddai Ms T Jones, Pennaeth Ysgol Merllyn: Rwyf wrth fy modd ein bod wedi ennill yr acolad gofal cymdeithasol. Mae鈥檔 destament i鈥檙 gwaith gwerthfawr a wneir yn Ysgol Merllyn. Rwy鈥檔 falch iawn ein bod yn parhau i ddefnyddio agwedd teulu cyfan i sicrhau鈥檙 canlyniadau gorau i鈥檔 dysgwyr a bod hynny wedi cael ei gydnabod.鈥 Yng ngwobrau Cyngor Gofal Cymru hefyd cydnabuwyd Prosiect Inspire KIM. Mae KIM yn fudiad sector gwirfoddol o Sir y Fflint sy鈥檔 cynnig gweithgareddau grwp, hyfforddiant a chymorth i bobl sy鈥檔 cael anhawster 芒鈥檜 hiechyd meddwl i gael gwaith. Cafodd Prosiect Inspire KIM wobr arbennig gan fod y gwobrau鈥檔 ddeg oed. Roedd y beirniaid wedi鈥檜 plesio gan y ffaith fod y prosiect yn cael ei arwain yn llawn gan y cleientiaid, ei fod yn canolbwyntio ar les a chynhwysiant cymdeithasol pobl 芒 phroblemau iechyd meddwl ac addysg a hyfforddiant am iechyd meddwl. Mae Cyngor Sir y Fflint yn darparu cyllid i KIM a hoffai longyfarch y mudiad am y gydnabyddiaeth arbennig hon hefyd. Meddai Annie Donovan, Cyd Brif Weithredwr KIM Inspire: 鈥淩ydym yn falch dros ben o gael ein cydnabod gan y Cyngor Gofal ac yn arbennig am y wobr fawreddog hon. Diolch o galon i bawb sy鈥檔 gysylltiedig 芒 KIM am eu holl gymorth a鈥檜 gwaith caled ac edrychwn ymlaen at fwy o ddatblygiadau yn y dyfodol鈥. Meddai鈥檙 Cynghorydd Chris Jones, Aelod o鈥檙 Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol: 鈥淩wyf mor falch o鈥檙 cyflawniadau hyn i Sir y Fflint. Roedd cyrraedd y rownd derfynol a chael cydnabyddiaeth i鈥檔 gwasanaethau ar lefel genedlaethol yn wych ynddo鈥檌 hun, ond wrth gwrs, mae ennill yn rhoi boddhad mawr. 鈥淒a iawn i bawb sy鈥檔 gysylltiedig ac sy鈥檔 gweithio mor galed i gefnogi teuluoedd Sir y Fflint, hefyd diolch o galon i rieni, plant a staff Ysgol Merllyn. Mae hwn yn gynllun gwych ac mae鈥檙 wobr hon yn haeddiannol iawn. 鈥淟longyfarchiadau hefyd i KIM, am eu cyflawniad arbennig.鈥 Gweler manylion llawn am y gwobrau ar wefan www.ccwales.org.uk Llun 香港王中王最快开奖结果_Early_Years_room.jpg