Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Y Cadeirydd yn cwrdd â merch ifanc syn codi arian
Published: 01/07/2015
Yn ddiweddar bu i Gadeirydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Ray Hughes,
gyfarfod 芒 merch 14 oed, Georgia Kaye Edwards, sydd wedi cael ei henwi yn 鈥楳iss
Junior Teen鈥 Sir y Fflint.
Mae Georgia, o Benyffordd, yn ddisgybl Blwyddyn 10 yn Ysgol Uwchradd Castell
Alun yn yr H么b. Mae wedi cael ei dewis o gannoedd o gystadleuwyr cyn-derfynol
i gystadlu yn rownd derfynol 鈥楳iss Junior Teen鈥 Prydain Fawr a gynhelir yn
Blackpool ym mis Hydref.
Mae Georgia鈥檔 gweithio鈥檔 galed i hyrwyddo elusen enwebedig y digwyddiad sef
Together for Short Lives, cymaint ag sy鈥檔 bosibl. Mae hon yn elusen flaenllaw
yn y DU sy鈥檔 codi arian i blant ag anhwylderau sy鈥檔 bygwth ac yn cyfyngu ar
fywyd a phawb sy鈥檔 eu cynorthwyo, eu caru ac yn gofalu amdanynt. Maent yn
cynorthwyo teuluoedd, gweithwyr proffesiynol a gwasanaethau, gan gynnwys
hosbisau plant.
Meddai鈥檙 Cynghorydd Hughes:
鈥淢ae Georgia鈥檔 eithriadol o ofalgar ac mae鈥檔 gweithio鈥檔 galed. Roedd yn bleser
ei chroesawu i Neuadd y Sir. Mae eisoes wedi codi arian i Together for Short
Lives, ac mae ar hyn o bryd yn casglu rhoddion o hen ddillad, dillad gwelyau a
thyweli i fynd i Fanc Dillad a鈥檜 cyfnewid am roddion i鈥檙 elusen. Helpwch os
gallwch 鈥 gallwch roi rhoddion yn syth i dudalen Justgiving Georgia sef
www.justgiving.com/Georgia-Kaye-Edwards.鈥
Meddai Georgia: 鈥溾橠w i ddim yn meddwl fod pobl yn sylweddoli fod mwy iddi na
harddwch corfforol yn unig mewn cystadlaethau pasiant yn y wlad hon. Mae gofyn
i ferched godi arian at elusen, cymryd rhan mewn digwyddiadau cymunedol, a
dangos eu ochr ofalgar. Mae鈥檔 beth da i bobl ifanc gymryd rhan ynddo, gan ei
fod yn meithrin eich hyder, eich dysgu am yr hyn sy鈥檔 digwydd o鈥檆h cwmpas, ac
yn gwneud i chi sylweddoli pa mor ffodus ydych chi. Bydd cymryd rhan yng
nghystadleuaeth 鈥楳iss Junior Teen鈥 Prydain Fawr yn brofiad bywyd gwerthfawr
iawn i mi.鈥
Llun
Yn y llun mae鈥檙 Cynghorydd Ray Hughes, Georgia Kaye Edwards, Mrs Gwenda Hughes
a鈥檙 Cynghorydd Cindy Hinds.