Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Celf yn y Llyfrgell
Published: 03/07/2015
Bydd arddangosfa ysbrydoledig o baentiadau gan artist Gogledd Cymru Emma Jayne
Holmes yn yr oriel i fynyr grisiau yn Llyfrgell Bwcle drwy gydol mis
Gorffennaf.
Hwn ywr pedwerydd mewn cyfres o arddangosfeydd, Celf yn y Llyfrgell 鈥 Lliw yn
y Llyfrgell, syn anelu at gefnogi artistiaid lleol, sydd efallai erioed wedi
arddangos eu gwaith o鈥檙 blaen, gan roi llwyfan iddynt arddangos eu gwaith ir
cyhoedd. Drwy gydol y flwyddyn, bydd y rhaglen arddangosfeydd yn Llyfrgelloedd
Sir y Fflint yn cynnwys paentiadau gan Angie Hoopert, Emma-Jayne Holmes a
Clayton Langford, lluniau gan Scott Bongo a ffotograffiaeth gan Ceridwen
Barkley.
Mae Emma bob amser yn hapus gyda brws paent yn ei llaw ac mae wedi bod yn
paentio am dros ddau ddegawd.
Meddai: 鈥淩wyf bob amser wedi bod yn greadigol, gwneud a chymysgu pethau, ond
rwy鈥檔 gweld tynnu llun yn her wirioneddol a pheintio鈥檔 bleser. Rwyf angen
ymarfer tynnu llun (sgerbwd y gwaith celf) i fwynhau鈥檙 peintio.鈥
鈥淭ra yn y Brifysgol roeddwn yn treulio llawer o amser yn tynnu llun ac yn mynd
allan i鈥檙 trefi a chefn gwlad i fraslunio. Ar 么l graddio y cefais wir afael ar
baentio olew, yn treulio amser gydag artist arall yn eu stiwdio, dysgu鈥檙
sgiliau a disgyblaeth. Ers cael teulu yn 2005, mae paentio lluniau wedi cymryd
y sedd gefn, ond bu brws yn fy llaw bron bob dydd gyda thy i鈥檞 adnewyddu!
鈥淭ua dwy flynedd yn 么l dychwelais at y paent olew a throir ystafell fwyta yn
stiwdio, rwy鈥檔 rhoi ychydig oriau鈥檙 wythnos iddo, mae鈥檙 amser yn mynd heibio a
fy sgiliau鈥檔 dychwelyd.
Dywedodd y Cynghorydd Chris Bithell, Aelod Cabinet Addysg:
鈥溾淩ydw i鈥檔 falch bod t卯m Diwylliant a Digwyddiadau Celf Cyngor Sir y Fflint a鈥檔
gwasanaeth llyfrgelloedd yn parhau i gefnogi unigolion medrus lleol 鈥 gan
arddangos eu gwaith a鈥檜 cefnogi fel busnesau.鈥
Bydd Emma Jayne Holmes hefyd yn cymryd rhan mewn digwyddiad agored Helfa Gelf
eleni gyda chyfle i alw heibio ac ymweld 芒 hi yn ei stiwdio. Gellir cael rhagor
o wybodaeth am Helfa Gelf yn www.helfagelf.co.uk
Os hoffai unrhyw wneuthurwyr, artistiaid a chrefftwyr arddangos eu gwaith fel
rhan o fenter Celf yn y Llyfrgell 鈥 Lliw yn y Llyfrgell yna e-bostiwch
gwenno.e.jones@flintshire.gov.uk gyda thair delwedd o鈥檆h gwaith a datganiad
byr am eich arferion celf neu grefft.