香港王中王最快开奖结果

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwobrau Balchder Sir y Fflint

Published: 09/07/2015

Bu dros 100 o blant sy鈥檔 derbyn gofal a phobl ifanc sy鈥檔 gadael gofal mewn seremoni wobrwyo a drefnwyd gan Gyngor Sir y Fflint yn ddiweddar. Mae seremoni wobrwyo Balchder Sir y Fflint yn dathlu llwyddiant plant sy鈥檔 cael gofal maeth a phobl ifanc sydd wedi gadael gofal yn ddiweddar ond sy鈥檔 dal yn cael cymorth gan y timau gwaith cymdeithasol. Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol: Er gwaethaf popeth sy鈥檔 mynd ymlaen yn eu bywydau ifanc, fel anawsterau personol, problemau iechyd, a chael eu gwahanu oddi wrth eu teuluoedd, mae鈥檙 plant hyn wedi llwyddo ym maes chwaraeon, dawns ac addysg ac wedi llwyddo yn eu bywydau personol. Maent wedi ennill bathodynnau nofio, wedi cael gwaith, wedi codi arian at achosion da, ac mae un wedi ennill gwobr myfyriwr y flwyddyn yn y Gyfraith hyd yn oed. Rydym yn hynod falch o鈥檙 hyn y mae鈥檙 plant hyn, o fabanod i bobl ifanc yn eu harddegau, wedi鈥檌 gyflawni a鈥檙 cymorth y maent wedi鈥檌 gael gan eu gofalwyr maeth, eu gweithwyr cymorth a鈥檜 teuluoedd. Roedd yn ddiwrnod arbennig, roedd yr haul yn tywynnu a chafodd pawb ddiwrnod llawn hwyl. Yr Athro Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru, a鈥檙 Cynghorydd Ray Hughes, Cadeirydd Cyngor Sir y Fflint, agorodd y seremoni. Y Cynghorydd Jones gyflwynodd y gwobrau ac roedd Neil Ayling, Prif Swyddog y Gwasanaethau Cymdeithasol a Mark Tami AC yn bresennol hefyd.聽 Ar Twitter, dywedodd Sally Holland: 鈥淩oedd Balchder Sir y Fflint yn ddigwyddiad cynnes, llawn hwyl, a oedd yn dathlu llwyddiant plant sy鈥檔 derbyn gofal - llongyfarchiadau i bawb鈥 Cynhaliwyd y digwyddiad yng Nghlwb Cymdeithasol Corus ac roedd yn gyfle i聽 blant, teulouedd maeth a theuluoedd biolegol ddod ynghyd i ddathlu llwyddiant y plant ac i roi cyfle iddynt fwynhau diwrnod bythgofiadwy. Roedd castell neidio, reidiau, hufen i芒, perfformiadau canu gan聽 Princesses a鈥檙 plant eu hunain, stondin paentio wynebau, disgo a鈥檙 seremoni wobrwyo ei hun. 聽Cyfrannodd busnesau lleol at lwyddiant y diwrnod drwy ddarparu gwobrau ac anrhegion. Hoffai Cyngor Sir y Fflint ddiolch i Knauf Installations, Dave Cottle Engineering, McLintocks, Molyneux, MPH Construction, Village Urban Resorts, Beaufort Park Hotel, Mainetti, System Electrical, Airbus, Airbus FC, Westbridge Furniture, Whittington Riddell, Coleg Cambria, J Bradburn Price, Linenhall Chambers, y Pwyllgor Safonau, Abakhan, Nandos, Dee Gas, LS Fire Group, The Cross Keys, cynghorwyr lleol a鈥檙 unigolion a gyfrannodd. Pennawd o鈥檙 chwith i鈥檙 dde: Y Cynghorydd Christine Jones, Neil Ayling聽 Sarah Williams (16), Dawn Price (21) Bryony Smythe (18) a鈥檙 Athro Sally Holland. 聽