Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Viagra Ffug yn cael ei ganfod yn Sir y Fflint
Published: 14/07/2015
Yn ystod ymweliad 芒 masnachwr, daeth Swyddogion Safonau Masnach Cyngor Sir y
Fflint o hyd i Viagra ffug yn cael ei werthu.
Mae ymholiadau o achosion eraill o atafael y cynnyrch wedi datgelu ei fod yn
beryglus ac yn cynnwys:
* inc argraffydd glas
* amffetaminau, sy鈥檔 cael ei alw hefyd yn 鈥渟peed鈥
* Metronidazole, gwrthfiotig pwerus sy鈥檔 gallu achosi adwaith alergaidd, dolur
rhydd neu gyfogi
* gormod o gynhwysion actif (neu ddim digon), a allai beri niwed
* cynhwysion glynol, megis plastrfwrdd, sy鈥檔 atal y dabled rhag torri i lawr yn
eich system
Yn 么l canllawiau meddygol, dim ond ar bresgripsiwn y dylid cymryd Viagra a gyda
chymeradwyaeth Meddyg.
Bydd ymholiadau yn Sir y Fflint yn parhau mewn perthynas 芒鈥檙 gadwyn gyflenwi a
diogelwch y cynnyrch hwn.
Meddai鈥檙 Cynghorydd Kevin Jones, Aelod o鈥檙 Cabinet dros Ddiogelu鈥檙 Cyhoedd,
鈥淢ae鈥檔 bryder fod cyffuriau ffug o unrhyw fath yn ymddangos ar y farchnad yn
Sir y Fflint. Rydym yn cynghori defnyddwyr i gymryd meddyginiaeth a roddir
iddynt gan eu meddyg neu fferyllydd yn unig a dylid cymryd y rhain dan
ganllawiau caeth. Os oes unrhyw un yn amau fod eitemau fel hyn yn cael eu
gwerthu, dylent gysylltu 芒鈥檙 Gwasanaeth Safonau Masnach ar 03454 040506鈥