Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Disgyblion yn dylunio cinio ysgol i blant ysgolion y Sir
Published: 14/07/2015
Mae dau o ddisgyblion ysgol o Sir y Fflint wedi ennill cystadleuaeth sirol i
ddylunio cinio ysgol.
Trefnwyd y gystadleuaeth Dylunio Cinio Ysgol gan Wasanaeth Prydau Ysgol Sir y
Fflint, i ddathlu pa mor dda yw prydau ysgol. Bydd y prydau buddugol 鈥 prif
gwrs a phwdin 鈥 yn ymddangos ar y fwydlen prydau ysgol yn ystod blwyddyn
academaidd 2015/16.
Cafodd y cystadleuwyr eu hannog i ddylunio prif gwrs neu bwdin yn unigol.
Roedd angen i鈥檙 prydau gynnwys agweddau ar y Pl芒t Bwyta鈥檔 Iach. Roedd y
gystadleuaeth ar agor i holl ddisgyblion cynradd Sir y Fflint a hynny am ddim.
Cafodd pob ymgais ei asesu yn 么l enw鈥檙 rysait, nifer y ffrwythau a llysiau a
oedd yn gynwysedig, pa gynhwysion a ddefnyddir a鈥檙 gost 鈥 roedd rhaid i鈥檙
prydau fod yn 拢2 neu lai am bob dogn.
Y cystadleuwyr buddugol oedd Eben Wyn Williams, Blwyddyn 5, o Ysgol Glanrafon
yr Wyddgrug, am ei Lasagne Selsig, a Sophie Williams, Blwyddyn 5 o Ysgol
Derwen, Kinnerton Uchaf, am ei Sleis Gellyg a Llus.
Aeth y Cynghorydd Bernie Attridge, Dirprwy Arweinydd ac Aelod o鈥檙 Cabinet dros
yr Amgylchedd i gyflwyno tocyn rhodd Argos gwerth 拢100, a ddarparwyd gan Little
Food Company, i鈥檙 ddau ddisgybl buddugol ac mae鈥檙 ddwy ysgol fuddugol wedi
derbyn 拢500 i wella鈥檙 profiad yn ffreutur yr ysgol.
Meddai鈥檙 Cynghorydd Attridge:
鈥淩oedd hwn yn gyfle gwych i鈥檔 disgyblion cynradd adael eu marc a dylunio cinio
ysgol a fydd nawr ar gael, ac yn cael ei fwynhau, mewn ysgolion ledled y Sir
dros y flwyddyn ysgol nesaf. Mae鈥檔 bwysig ein bod yn ennyn diddordeb plant
mewn bwyd, a dangos iddynt y gall prydau iachus fod yn hwyl hefyd. Diolch yn
fawr i鈥檙 plant hynny a gymerodd ran, a llongyfarchiadau arbennig i鈥檙 enillwyr,
Eben a Sophie, am eu bwydlenni ysbrydoledig a chreadigol.鈥
Lluniau
Llun rhif 7550: Y Cynghorydd Attridge gydag Eben Wyn Williams, Cogydd mewn
Gofal Elaine Delaney a鈥檙 Cydgysylltydd Bwyta鈥檔 Iach Laura England.
Llun rhif 7563: Y Cynghorydd Attridge gyda Sophie Williams a鈥檙 Cogydd mewn
Gofal Nicola Chilton a鈥檙 Cydgysylltydd Bwyta鈥檔 Iach Laura England.