Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Enillwyr Gwobr y Faner Werdd
Published: 28/07/2015
Mae dau barc yn Sir y Fflint bellach wedi ennill Gwobr y Faner Werdd 鈥 y clod a
roddir i barciau neu fannau gwyrdd o safon uchel gan Cadwch Gymru鈥檔 Daclus.
Mae 110 o barciau a mannau gwyrdd yng Nghymru, sef y nifer fwyaf erioed, wedi
cyrraedd y safon uchel sy鈥檔 ofynnol i ennill Gwobr y Faner Werdd neu Wobr
Gymunedol y Faner Werdd.
Mae Cyngor Sir y Fflint yn eithriadol o falch o ennill yr hawl i chwifio鈥檙
Faner Werdd mewn dau o鈥檌 barciau sef Parc Treftadaeth Dyffryn Maes Glas a Parc
Gwepra i gydnabod eu cyfleusterau ardderchog a鈥檜 hymrwymiad i ddarparu mannau
gwyrdd o ansawdd gwych.
Meddai鈥檙 Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod o鈥檙 Cabinet dros yr Amgylchedd: 鈥淢ae
hwn yn acolad gwych i鈥檔 dau barc ardderchog sy鈥檔 lleoliadau hyfryd yn Sir y
Fflint i ymwelwyr fwynhau prydferthwch cefn gwlad lleol.
Mae Gwobr y Faner Werdd yn bartneriaeth ledled y DU, a ddarperir yng Nghymru
gan Cadwch Gymru鈥檔 Daclus gyda chymorth Cyfoeth Naturiol Cymru. Caiff ei
feirniadu gan fintai o arbenigwyr mannau gwyrdd, sy鈥檔 gwirfoddoli eu hamser i
ymweld 芒 safleoedd ymgeisiol a鈥檜 hasesu yn erbyn wyth o feini prawf caeth, gan
gynnwys safonau garddwriaethol, glanweithdra, cynaliadwyedd ac ymgysylltiad
cymunedol.
Meddai Lucy Prisk, Cydgysylltydd y Faner Werdd yn Cadwch Gymru鈥檔 Daclus:
鈥淩ydym yn hynod falch o ddathlu blwyddyn sydd wedi torri record i gynllun
Gwobrau鈥檙 Faner Werdd. Mae鈥檙 holl faneri sy鈥檔 chwifio eleni yn cynrychioli
ymdrechion cannoedd o ddynion a merched, yn staff ac yn wirfoddolwyr, sy鈥檔
gweithio鈥檔 ddiflinio i gynnal y safonau uchel a ofynnir gan Wobr y Faner Werdd.鈥
Gellir gweld rhestr o holl barciau鈥檙 Faner Werdd ar wefan HYPERLINK
http://www.cadwchgymrundaclus.org www.cadwchgymrundaclus.org/yfanerwerdd
Gallwch roi鈥檆h parc neu鈥檆h man gwyrdd ar y map drwy gymryd rhan hefyd.
Edrychwch ar wefan Cadwch Gymru鈥檔 Daclus www.cadwchgymrundaclus.org am fwy o
wybodaeth.
NODIADAU I OLYGYDDION
1. Am fwy o wybodaeth cysylltwch 芒:
Barbara Milne, Cyngor Sir y Fflint ar 01352 702111 neu e-bostiwch
barbara.milne@flintshire.gov.uk
Lucy Prisk, Cydgysylltydd y Faner Werdd ar 029 20726964 / 07469 118876 neu
e-bostiwch lucy.prisk@keepwalestidy.org
2. Mae Cadwch Gymru鈥檔 Daclus yn Elusen Amgylcheddol gofrestredig sy鈥檔 gweithio
i wella amgylcheddau lleol Cymru. Edrychwch ar ein gwefan am fwy o wybodaeth:
www.cadwchgymrundaclus.org
3. Mae Gwobr y Faner Werdd yn cydnabod parciau sydd wedi dangos safonau uchel
Gwobr y Faner Werdd. Rhoddir pwyslais hefyd ar ymgysylltiad y gymuned leol i
ofalu am y parc gwobredig yn barhaus ac yn y tymor hir.
4. Rhedir Cynllun Gwobrau鈥檙 Faner Werdd (http://greenflagaward.org/) gan yr
elusen amgylcheddol Cadwch Brydain yn Daclus, o dan drwydded gan yr Adran
Cymunedau a Llywodraeth Leol, mewn partneriaeth 芒 Keep Scotland Beautiful,
Cadwch Gymru鈥檔 Daclus a Keep Northern Ireland Beautiful, Ffederasiwn Ffermydd
Dinesig a Gerddi Cymunedol a鈥檙 Ffederasiwn Dai Genedlaethol.
5. Am fwy o wybodaeth am Wobr y Faner Werdd yng Nghymru edrychwch ar wefannau
www.cadwchgymrundaclus.org or www.greenflagaward.org