Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Sir y Fflint yn croesawu Taith Prydain Aviva
Published: 31/07/2015
Prif ddigwyddiad beicio ffyrdd seiclo Prydain yw Taith Prydain Aviva, sy鈥檔 rhoi
cyfle i gefnogwyr weld timau a beicwyr gorau鈥檙 byd yn cystadlu ar eu stepen
drws.
Bydd Sir y Fflint yn croesawu Taith Prydain Aviva wrth i鈥檙 beicwyr fynd trwy鈥檙
Wyddgrug a Bwcle ar Gam 1 y ras ddydd Sul, 6 Medi. Bu miloedd ar y llwybr drwy
Sir y Fflint y llynedd ac mae torfeydd mawr yn sicr o fod allan eto yn dangos
eu cefnogaeth ir beicwyr eleni.
Maer ras yn dechrau ym Miwmares, Ynys M么n yn gynharach yn y dydd ac yn teithio
ar draws Gogledd Cymru i orffen Cam 1 yn Wrecsam.
Dywedodd y Cyng. Kevin Jones, yr Aelod Cabinet 芒 chyfrifoldeb dros Hamdden,
鈥淢ae Taith Prydain Aviva yn ddigwyddiad cyffrous, proffil uchel a bydd modd
gweld uchafbwyntiaur digwyddiad ar y teledu ledled y byd. Rwyf wrth fy modd y
bydd hyn ar sylw helaeth yn y wasg leol a chenedlaethol ac ar-lein yn dod 芒
Sir y Fflint i sylw cynulleidfa ryngwladol enfawr.
鈥淢ae hwn yn gyfle gwych i bobl leol weld y gorau o seiclo rhyngwladol ac rwyf
yn siwr y bydd torfeydd allan yn llu i fwynhau cyffro a gwefr y ras.鈥
I gael manylion llawn am Daith Prydain Aviva, gan gynnwys amserlen llwybr ewch
i www.tourofbritain.co.uk