Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Anrhydeddu Cynghorau mewn sioe sirol
Published: 21/08/2015
Mae Cyngor Sir Ddinbych a Sir y Fflint yn dathlu ennill y stondin anamaethyddol
Gorau yn Sioe Dinbych a Fflint eleni, a gynhaliwyd yn Y Green, Dinbych ddoe
(Dydd Iau, 20 Awst).
聽Archwilio Tref a Gwlad oedd y thema ar gyfer presenoldeb eleni ar y cyd,
gyda ffocws ar hyrwyddo llwybrau tref yn y ddwy sir, safleoedd treftadaeth ac
arddangosfa Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn
Dyfrdwy i ddathlu ei ben-blwydd yn 30.
Mae gweithgareddau awyr agored yn cynnwys llwybr beicio, g锚m croce i hyrwyddor
Cod Cefn Gwlad, gwneud modelau cast yn ymwneud ag ymestyn Rheilffordd
Llangollen i Gorwen a sesiynau cerdded Nordig.
Cafwyd yr arddangosfa flodau helaeth y tu allan i鈥檙 babell gan Feithrinfeydd
Triffordd yn Sir y Fflint.
Dywedodd y Cynghorydd Gwyneth Kensler, Cadeirydd Cyngor Sir Ddinbych: 鈥淩oeddem
wrth ein boddau yn cael yr anrhydedd hon ar gyfer ein presenoldeb eleni. 聽Mae
archwilio ein trefi an gwlad yn rhywbeth y mae鈥檙 ddwy sir a鈥檙 Ardal o Harddwch
Naturiol Eithriadol yn ei hyrwyddo, ac mae maes y sioe yn lleoliad delfrydol i
arddangos yr hyn sydd ar gael yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.鈥
Dywedodd y Cynghorydd Ray Hughes, Cadeirydd Cyngor Sir y Fflint: 鈥淢aer ddau
gyngor wedi gweithio gydai gilydd am nifer o flynyddoedd i drefnu鈥檙
presenoldeb ar y cyd yn y Sioe. Roeddem wrth ein bodd 芒 sylwadaur beirniaid am
ein pabell a鈥檔 gweithgareddau ac roeddem yn gwerthfawrogir cyfle i hyrwyddo
ein siroedd, ond hefyd i siarad 芒 thrigolion am faterion sydd o ddiddordeb
iddyn nhw.