Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Rhoi Cymru ar y map
Published: 09/09/2015
Mae pobl Sir y Fflint yn cael eu gwahodd i gymryd rhan mewn prosiect cyffrous i
roi mapiau degwm Cymru ar-lein fel bod modd i bawb eu defnyddio.
Mae鈥檙 mapiau hyn o blwyfi lleol ar ddechrau鈥檙 bedwaredd ganrif ar bymtheg, a鈥檙
wybodaeth gysylltiedig, yn amhrisiadwy gan eu bod yn dangos y dirwedd, y modd y
defnyddiwyd y tir a鈥檙 cyfansoddiad cymdeithasol ar y pryd.
Caiff y delweddau digidol eu cynhyrchu gan ffotograffwyr yn Llyfrgell
Genedlaethol Cymru ond mae angen cymorth y cyhoedd hefyd i drawsgrifio鈥檙 testun
ar y mapiau a鈥檙 atodlenni, a鈥檜 cysylltu a mapiau modern.
Bydd Archifdy Sir y Fflint yn cynnal cyfres o weithdai ddydd Mercher 16 Medi i
ddangos i unrhyw un a fyddai鈥檔 hoffi cymryd rhan yn y prosiect sut y gallant
helpu. Nid yw鈥檔 anodd a gall gwirfoddolwyr weithio ar eu cyfrifiaduron eu
hunain gartref unrhyw adeg o鈥檙 dydd neu鈥檙 nos.
Bydd Carys Evans o brosiect Cynefin yn yr archifdy ym Mhenarlag rhwng 9.30am ac
1pm ac mae croeso i bawb. Rhaid neilltuo lle ymlaen llaw i sicrhau bod pawb yn
cael rhywfaint o sylw personol ac yn manteisio i鈥檙 eithaf ar y sesiwn.
Gallwch ffonio Carys ar 01970 632416.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, y Cynghorydd Chris Bithell
鈥淒yma gyfle gwych i bobl Sir y Fflint gymryd rhan mewn prosiect gwerthfawr a
chyffrous i ddod 芒鈥檔 hanes yn fyw鈥.