香港王中王最快开奖结果

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cais am Fentoriaid Gwirfoddol

Published: 30/09/2015

A fyddech chi鈥檔 gallu bod yn fodel r么l da i bobl ifanc? Os felly, hoffai Gwasanaeth Mentoriaid Gwirfoddol Cyngor Sir y Fflint glywed gennych. Mae nifer y plant mewn gofal yn cynyddu felly mae t卯m gwasanaethau cymdeithasol y cyngor yn apelio ar fwy o bobl leol i fod yn fentoriaid gwirfoddol. Mae mentoriaid yn gweithio ar sail un i un gyda phobl ifanc mewn gofal, sy鈥檔 gadael gofal neu sy鈥檔 byw adref gyda鈥檜 teuluoedd, gan ddarparu clust i wrando a鈥檜 hannog i gyflawni eu nodau. Mae Mike Turner, 34, o Fwcle wedi bod yn gwirfoddoli fel mentor dros y pum mlynedd diwethaf a dywed ei fod wedi elwa cymaint o鈥檙 profiad. Meddai: 鈥淩oeddwn i鈥檔 gwybod fod gennyf rywbeth i鈥檞 gynnig ac roeddwn i am wneud rhywbeth gwahanol, heb unrhyw bwysau er mwyn gallu ei wneud ochr yn ochr 芒 fy swydd lawn amser felly roedd gwirfoddoli鈥檔 berffaith. 鈥淢ae wedi bod yn brofiad boddhaus a phositif a byddwn yn annog eraill i gymryd rhan.鈥 Clywodd Mike am y cynllun mentoriaid gwirfoddol drwy Gyngor Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint yn yr Wyddgrug a dros y 5 mlynedd diwethaf mae wedi gweithio gyda 6 o wahanol bobl ifanc. 鈥淢aent i gyd yn wahanol iawn. Yr her yw dod i鈥檞 hadnabod a鈥檜 cynorthwyo gyda鈥檜 nodau,鈥 meddai. 鈥淒ydw i ddim yn arbenigwr ac rydw i yno i gynnig cymorth a鈥檜 rhoi ar y trywydd cywir, eu hannog i gymryd rhan mewn gweithgareddau a鈥檜 helpu i feithrin hyder. 鈥淩ydym yn sgwrsio am yr ysgol a鈥檙 pethau y meant yn eu gwneud yno. Wrth feithrin ffydd a pherthynas, maent yn gwybod y gallant drafod unrhyw broblemau gyda chi. Rydym yn trafod eu dewisiadau ar gyfer y dyfodol a gallaf eu cyfeirio at grwpiau a gwasanaethau nad ydynt o bosibl yn gwybod amdanynt.鈥 Mae mentoriaid yn cael cymorth a hyfforddiant gan Wasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint ac maent yn cael eu paru鈥檔 ofalus ag unigolyn ifanc sy鈥檔 cyd-fynd 芒鈥檜 diddordebau a鈥檜 hanghenion. Meddai Maike: 鈥淩wyf wedi cael cyfle i ennill sgiliau, hyfforddiant a gwaith mewn meysydd eraill o wasanaethau cymdeithasol.鈥 Dywed Andrea Wade, Cydgysylltydd Mentorau Cyngor Sir y Fflint, nad oes angen gwybodaeth na phrofiad blaenorol ar fentoriaid, dim ond sgiliau rhyngbersonol da ac ymrwymiad i gynorthwyo pobl ifanc. Meddai: 鈥淢ae pobl ifanc wedi dweud wrthym yr hoffent fentoriaid cyfeillgar, sy鈥檔 wrandawyr da, sy鈥檔 gallu meithrin hyder ac sy鈥檔 ddibynadwy.鈥 Meddai鈥檙 Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet dros Wasanethau Cymdeithasol: 鈥淢ae cynllun mentora鈥檙 Cyngor wedi bod yn llwyddiannus iawn ac mae鈥檙 gwirfoddolwyr yn gwneud gwahaniaeth candarnhaol i fywydau鈥檙 bobl ifanc dan sylw. Dywed ein mentoriaid eu bod yn cael boddhad o鈥檙 profiad. Byddwn yn annog unrhyw un sydd 芒 diddordeb yn y cynllun i gysylltu 芒 ni.鈥 Am fwy o wybodaeth am y Gwasanaeth Mentoriaid Gwirfoddol, edrychwch ar wefan y Cyngor, anfonwch e-bost at Mentoring@flintshire.gov.uk neu ffoniwch Andrea Wade ar 01352 701089.