Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cynllun Busnes NEW Homes
Published: 05/10/2015
Bydd cynlluniau ar gyfer twf NEW Homes at y dyfodol, fel y nodwyd yn ei Gynllun
Busnes ar gyfer y pum lynedd nesaf, yn cael eu hystyried gan Gynghorwyr Sir y
Fflint.
Fe sefydlwyd NEW Homes ym mis Ebrill 2014 i gefnogi twf y Cyngor yn yr ystod o
ddewisiadau tai yn y farchnad dai leol.
Maer cynigion yn cynnwys cyflwyno 300 o dai fforddiadwy newydd ledled y sir
dros y pum mlynedd nesaf trwy Raglen Tai ac Adfywio Strategol (RhTAS) y
Cyngor. Disgwylir i鈥檙 cynllun cyntaf gael ei adeiladu yn The Walks, Fflint a
fydd yn cynnwys hyd at 50 o dai fforddiadwy ar hen safle fflatiau deulawr.
Disgwylir i NEW Homes hefyd dderbyn 16 o adeiladau newydd gan ddatblygwyr, gan
ddiwallu eu goblygiadau darpariaeth tai fforddiadwy drwy Gytundebau Adran 106.
Bydd yr unedau hyn yn cael eu trosglwyddo ir cwmni gael eu gosod fel tai
fforddiadwy. Mae cynlluniau hefyd ar waith i gaffael wyth o unedau tai iw
gosod ar renti fforddiadwy.
Yn ogystal 芒 rhentu ei eiddo ei hun, mae NEW Homes yn rhedeg ystod o gynigion
ar gyfer landlordiaid sydd i gyd yn cynnwys gwasanaethau parod i denantiaid鈥.
Maer cwmni yn cynnig gwasanaeth gosod a rheoli eiddo a reolir yn llawn, a
chynnig unigryw i berchnogion tai dros 55 oed i brydlesu eu heiddo ir cwmni a
chael mynediad i eiddo cyngor addas.
Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Dirprwy Arweinydd a Chadeirydd NEW Homes:
鈥淔e sefydlwyd NEW Homes i gynnig tai amgen, fforddiadwy i bobl leol, sydd naill
ai methu fforddio rhenti landlordiaid preifat uchel, a/neu ddim yn gymwys ar
gyfer ty Cyngor. Rwyf wrth fy modd bod y cynllun arloesol hwn eisoes yn gwneud
gwahaniaeth gwirioneddol i ddiwallu anghenion tai lleol drwy ddarparu nifer o
wahanol ffyrdd y gall pobl ddod o hyd i gartrefi fforddiadwy鈥.
Dywedodd y Cynghorydd Helen Brown, Aelod Cabinet dros Dai:
鈥淐yngor Sir y Fflint oedd yr awdurdod cyntaf yng Nghymru i sefydlu ei gwmni tai
ei hun a chafodd y cynllun arloesol hwn ei gydnabod ar lefel genedlaethol ym
mis Tachwedd 2014 pan enillodd y Cyngor wobr Sefydliad Tai Siartredig 鈥楽yniad
Newydd y Flwyddyn鈥 am fod yr awdurdod cyntaf yng Nghymru i sefydlu ei gwmni tai
ei hun.
鈥淩wyn falch iawn 芒鈥檙 cynnydd y mae NEW Homes wedi鈥檌 wneud mewn amser cymharol
fyr ers ei sefydlu. Maen cynnig gwasanaeth gwych i drigolion sydd angen rhenti
yn fwy fforddiadwy a bydd yn gwella鈥檙 dewisiadau tai sydd ar gael i鈥檔 trigolion
yn sylweddol. Maer cwmni hefyd yn cynnig gwasanaethau i landlordiaid.鈥
Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint:
鈥淩ydym yn falch iawn o NEW Homes a鈥檙 ffaith mai Sir y Fflint yw鈥檙 cyngor cyntaf
yng Nghymru i gymryd camau uniongyrchol i fynd i鈥檙 afael 芒 phroblemau anghenion
tai yn lleol. Mae鈥檔 bleser gen i fod NEW Homes yn gwireddu ein huchelgeisiau
mewn modd ymarferol.鈥
Bydd Pwyllgor Craffu Cymuned a Menter Cyngor Sir y Fflint yn ystyried yr
adroddiad ddydd Mercher, 7 Hydref a gofynnir i Gabinet y Cyngor gymeradwyor
Cynllun Busnes yn ei gyfarfod ddydd Mawrth, 13 Hydref.
I gael rhagor o wybodaeth ewch i: http://www.northeastwaleshomes.co.uk/