Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Un ymdrech olaf ym Mharc Gwepra
Published: 16/10/2015
Mae prosiect i drawsnewid Parc Gwepra ac adfer Gerddi鈥檙 Hen Neuadd iw hen
ogoniant rwan yn cyrraedd ei gymal olaf.
Mae Cyngor Sir y Fflint wedi bod yn gwneud defnydd da o grant o 拢583,400 oddi
wrth Raglen Parciau a Phobl Cronfa Dreftadaeth y Loteri gyda phecyn o
welliannau a gwaith adfer sylweddol ledled y parc.
Maer prosiect wedi cynnwys ffensys a llwybrau troed newydd, adfer Gerddi鈥檙 Hen
Neuadd, creu gardd gymunedol newydd, cynllun plannu coed yn ogystal 芒 gwell
cyfleusterau addysgol a byrddau dehongli i helpu pobl leol ac ymwelwyr i
archwilio hanes y parc, y gerddi a Chastell Ewlo.
Maer prosiect tair blynedd bellach wedi cyrraedd ei chwe mis olaf ac maer
ymdrech olaf yn cael ei gwneud i gwblhaur trawsnewid.
Mae鈥檙 gwaith o adfer y wal 150 mlwydd oed yng Ngerddi鈥檙 Hen Neuadd yn tynnu at
y terfyn gyda gwaith i ddilyn ar y nodweddion hanesyddol ac ailosod y gerddi.
Bydd y prif lwybr drwyr parc ar gau ir cyhoedd am y 6-8 wythnos nesaf wrth
ir gwaith i wella mynediad i Gastell Ewlo gael ei wneud. Bydd gwyriadau ar
waith.
Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd:
鈥淢ae hon wedi bod yn daith hir, ond gyda鈥檙 diwedd bellach yn ein golygon, bydd
y parc yn cael ei drawsnewid. Rydw i wrth fy modd gydar gwaith hyd yma a
hoffwn fynegi diolch arbennig i ymdrechion yr holl wirfoddolwyr sydd wedi rhoi
ou hamser i gymryd rhan yn y prosiect dros y ddwy flynedd ddiwethaf.鈥
Pennawd y llun 鈥 Y Cyng Attridge yn cael golwg ar y gwaith gwella sy鈥檔 mynd yn
ei flaen ym Mharc Gwepra gyda Tom Woodall, Pennaeth Gwasanaethau Cefn Gwlad
Cyngor Sir y Fflint.